Plesio Cheryl
Diwrnod cyntaf yr Eisteddfod a diwrnod ymweliad Ysgirfennydd Cymru, Cheryll Gillan, ac yr oedd digon iddi i'w wneud rhwng cyfarfod pwy bynnag sy'n gofalu am S4C erbyn hyn a disgyn i berfeddion 'Y Lle Cel'.
Ac mae'n go debyg i'r ail wneud mwy o argraff ar y wraig a synnodd nifer nad oeddynt wedi ei chyfarfod o'r blaen a'i hynawsedd a'i chynhesrwydd.
Yn wir i chi ar ôl gweld y Lle Celf dywedodd ei fod yn rhoi'r Tate Modren yn Lloegr yn y cysgod.
"It really knocks spots off Tate Modern," oedd ei geiriau hi gan ddangos, ychwanegodd, fod y Gymru fodern yn llawn o syniadau modern ac amrywiol.
Ac yn ôl Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod addawodd Cheryl y bydd y person sy'n prynu gwaith celf ar ran Llywodraeth San Steffan yn ymweld â'r Eisteddfod yn flynyddol o hyn allan.
"Gyda'r bwriad o brynu gwaith i Lywodraeth y Deyrnas Unedig o'r Eisteddfod - sy'n wych iawn," meddai Elfed.