´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dawn ymataliol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 15:37, Dydd Sadwrn, 7 Awst 2010

A dyna honna drosodd - a throsodd hefyd gyda dim ond un o'r prif wobrau llenyddol yn cael ei hatal.

Bu yna Gadeirio, Medal Daniel Owen, Medal Ryddiaith a Chadair.

Ond dim Medal Ddrama a Cefin Roberts a Mari Emlyn yn gyfriol am atal y wobr mewn tair cystadleuaeth i gyd mewn gwirionedd - y Fedal, wrth gwrs, a hefyd gwobr y gystadleuaeth sgrifennu Drama Hir a'r gystadleuaeth sgrifennu Drama Fer.

Cefin yn atal y gwobrau

Ond wedi'r cyhoeddiad ar y llwyfan, y rhyfeddod oedd i'r seremoni, gwbl wag erbyn hyn, barhau beth bynnag gyda darlleniad a dawns.

Ond â dim byd i'w ddathlu oni fyddai wedi bod yn gallach ac yn fwy rhesymol symud ymlaen yn gyflym i'r gystadleuaeth nesaf yn lle ymestyn y gwewyr fel hyn?

Ymgais aflwydiannus i lemwi gwacter dramatig

Bu sawl un yn gofyn wedi'r seremoni pam bod cyn lleied o ddiddordeb yn y gystadleuaeth hon - mi ddywedwn i bod yr ateb i hynny'n eglur iawn.

Dros y blynyddoedd diwethaf does yr un o ddramâu'r Fedal wedi cael eu perfformio ac yr oedd Dyfed Edwards, a enillodd y Fedal am yr eildro, yn cwyno y llynedd na chafodd drama'r flwyddyn cynt, er ei chanmol, ei pherfformio.

Ond yn achos buddugoliaeth y llynedd yr oedd Cefin Roberts, yn ystod ei dymor yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru wedi neillto drama Dyfed i'w pherfformio cyn bo hir gan ei disgrifio fel "drama aruthrol".

Ac yntau'n awr wedi gadael y cwmni hwnnw a ddigwydd hynny does wybod.
Peryg ydi y bydd y cwmni'n ystyried cyfieithiad o ddrama Saesneg yn fwy deniadol.

Ond yn ôl at y Steddfod; ar wahân i'r heldrin yn yr Adran Ddrama dim ond pedair gwobr arall gafodd eu hatal yn yr adran lenyddol ym Mlaenau Gwent, doedd neb yn deilwng yng ngystadleuaeth y Cywydd, y Stroi Fer, Erthygl Parti Cinio a Creu ffilm deng munud.

Dm ond mewn tair cystadleuaeth fu na ddim cystadlu o gwbl, Cyfansoddi darn ar gyfer gitar, Ymchwiliad gwyddonol a Chyfansoddi dawns werin.

Cwestiwn ichi - be di'r gwaethaf, neb yn cystadlu ynteu neb yn medru ennill?

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.