´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barddiho

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:44, Dydd Gwener, 10 Medi 2010

Gan ddisgrifio ei hun fel "trwbadwr ar gefn ceffyl" mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn paratoi ar gyfer taith hydrefol o gwmpas y wlad.

Ar gyfer y daith bydd Gillian Clarke yn cael cwmni bardd y frenhines - y Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy a fydd gyda hi yng Ngwesty'r Angel, Y Fenni, ar noson gyntaf y daith.

Trefnir y daith gan yr a bydd nifer o feirdd o Gymru yn ymuno â hi.

"Dwi'n teithio bron bob wythnos fel rhan o'm gwaith fel bardd, ond 'taith' arbennig fydd hon. Gwelaf fy hun fel trwbadŵr ar gefn ceffyl yn teithio hen lwybrau hyn hytrach nag yn fy nghar ar yr A487," meddai.

Ac mi fyddai rhai yn barod i ddweud na fyddai hi fawr arafach o wneud hynny!

Dewiswyd Gillian Clarke yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2008 i ddilyn Gwyn Thomas.

"Mae disgyblion TGAU a Lefel A Saesneg yn y rhan fwyaf o ysgolion ym Mhrydain yn astudio ei barddoniaeth ac mae wedi perfformio ei gwaith o flaen cannoedd o filoedd o bobl ifainc yn sioeau Poetry Live!" meddai lleafrydd ar ran yr Academi.

Ac meddai Gillian Clarke: "Byddaf yn rhannu llwyfan â beirdd o fri, pedwar perfformiwr gwych sydd yn cynrychioli'r modd y mae barddoniaeth yn gallu cyffwrdd pobl yng Nghymru a thu hwnt, mewn ieithoedd gwahanol. Rydym oll yn ffrindiau."

Mae'r Academi yn rhybuddio y bydd yna fynd ar y tocynnau ac y dylid archebu'n fuan - os ydych am fachu ar y cyfle - dyma fanylion y daith:

Iau 16 Medi, 7.30 pm
Gwesty'r Angel, Y Fenni
Gyda Carol Ann Duffy
Tocynnau: £9.00
Gwybodaeth & Tocynnau: www.abergavennyfoodfestival.com/booking.html

Sul 19 Medi, 12.00 pm
The Bell, Skenfrith
Tocynnau : £25.00
Gwybodaeth & Tocynnau: www.abergavennyfoodfestival.com/booking.html

Mawrth 19 Hydref, 7.00 pm
Gwesty Gwydyr, Betws y Coed
Gyda Ifor ap Glyn
Tocynnau: £5.00 / £4.00
Gwybodaeth & Tocynnau: Academi - 029 2047 2266 / post@academi.org

Iau 21 Hydref, 7.00 pm
Canolfan Wyeside, Llanfair ym Muallt
Gyda Paul Henry
Tocynnau: £8.00
Gwybodaeth & Tocynnau: 01982 552555

Iau 25 Tachwedd, 7.00 pm
Ystafell Teifi, Canolfan Halliwell, Coleg Prifysgol y Drindod
Gyda Menna Elfyn
Tocynnau: £6.00 / £4.00
Gwybodaeth & Tocynnau: Academi - 029 2047 2266 / post@academi.org

Sadwrn 27 Tachwedd, 2.30 pm
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Gyda Carol Ann Duffy
Tocynnau: £15.00
Gwybodaeth & Tocynnau: www.llgc.org.uk / 01970 632548

Gwener 10 Rhagfyr, 7.30 pm
Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
Gyda Carol Ann Duffy
Tocynnau: £10.00 / £7.00
Gwybodaeth & Tocynnau: 01792 463980

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.