´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Digrifwch sbyty

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 19:35, Dydd Mawrth, 26 Hydref 2010

Mae mwy o edrych ymlaen na'r cyffredin at nofel nesaf yr awdur o Flaenau Ffestiniog, Geraint V Jones.


Hynny oherwydd ei fod yn agor cwys newydd sbon - trwy gyhoeddi nofel ddigri.

Ac yn rhyfedd iawn, arhosiad mewn ysbyty sydd y tu ôl i'r doniolwch yn Si Bêi - Helyntion Wil Bach Saer.

Clawr y llyfr

. A'r Si Bêi yn y teitl - C-Bay yn yr iaith fain' - ydi Ward Glasddwr, Sbyty Penrhos, lle mae'r prif gymeriad, Wil Bach Saer, yn treulio cyfnod.

"Ond nid yw anhwylder yn rhwystro'r hen Wil rhag cynnig sylw ar bawb a phopeth. Yn hytrach, mae'r yndyrtêcyr bach moel yn achub ar y cyfle i bwyso a mesur pawb, gydag un llygad ar gwsmeriaid posib!" meddai llefarydd o y cyhoeddwyr.


Mae'r nofel wedi ei seilio ar gyfbnod a dreuliodd yr awdur ei hun mewn ysbyty.

"Doeddwn i ddim yn wael, diolch i'r Drefn," meddai Geraint V Jones sydd wedi ennill prif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol gyda'i nofelau, "ac oherwydd hynny roeddwn mewn sefyllfa i sylwi ar be oedd yn mynd ymlaen o 'nghwmpas i.

"Roedd yno ambell i gymeriad doniol yn mynd a dod, a rhyw sefyllfaoedd annisgwyl weithiau'n codi a chan nad oedd yr un o'm cyd gleifion, chwaith, yn dioddef o unrhyw waeledd difrifol, fe ddaeth imi'r syniad o droi'r sefyllfa yn ddeunydd nofel ysgafn a buan iawn y dechreuodd fy nychymyg redeg yn wyllt."

Dywedir bod y nofel yn llawn sylwadau digrif am natur y Gymru gyfoes, llawer ohonyn nhw'n ymylu ar yr abswrd a'r ffars.

"Mae'n rhaid i mi gyfaddef i mi fwynhau'r broses o sgwennu hon," meddai Geraint V Jones dan chwerthin.

"Roedd yn rhyw fath o gatharsis am wn i ond dwi'n brysio i bwysleisio - os oes angen gneud y fath beth! - mai creadigaethau'r dychymyg, a dim byd mwy na hynny, ydi pob un o gymeriadau'r nofel."

Ond nid pawb sy'n coelio awdur pan yw'n dweud peth felly.

" Yn y rhagymadrodd i Teulu Lord Bach mi bwysleisiais mai ffrwyth y dychymyg oedd pob un o'r cymeriadau yn fan'no ond fu hynny ddim yn rhwystr i ambell un ddod ata' i ar y Stryd Fawr yn Stiniog i ddeud, 'Dwi'n gwbod pwy oedd Ifan Lòrd Bach' neu 'Dwi'n cofio Gaenor Goch. Roedd hi'n byw yn ...'!

"Os byth y daw rhywun ata i i ddeud ei fod o'n adnabod rhai o fêts Wili Bach Saer yn Si Bêi, yna fy ateb fydd - Rhaid dy fod ti'n nabod pobol ryfadd ar y naw!"

Mae Dylan Williams, Pennaeth Cyhoeddi Gomer eisoes wedi gosod y gwaith yn yr un fasged a Straeon yr Henllys Fawr, straeon Harri Parri, Dyddiadur Dyn Dwad a C'mon Midffîld.

Os gwir hynny yr ydym am wledd am £6.99.

A gyda llaw fe fyddwn i wedi ychwanegu Teisennau Berffro at y casgliad yna o glasuron digrifwch Cymraeg - ond pawb a'i restr yw hi efo pethau fel hyn, efallai bod gennych chi gyfrol arall i'w hychwanegu.

Ta beth, edrychaf ymlaen at ymdrech Geraint V Jones.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.