Dros 900 y dydd!
Os nad ydych chi'n gweld pen y dalar ebyn hyn mae hi'n edrych yn go fler arno chi.
Daeth neges o swyddfa'r yn tynnu sylw bod yn rhaid i ymegsion y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen gyrraedd y swyddfa erbyn Rhagfyr 1.
"Os ydych chi'n awyddus i gystadlu am y Fedal Ryddiaith neu Wobr Goffa Daniel Owen yn 2011, dim ond deufis sydd ar ôl tan bod rhaid i'r gwaith gyrraedd swyddfa Trefnydd yr Eisteddfod," meddir.
A go brin y bydd y sawl sgrifennodd y frawddeg yna, mwy na minnau, yn cystadlu!
Rhagfyr 1 yw'r dyddiad cau ar gyfer y ddwy gystadleuaeth ac mae'r holl fanylion sut i gystadlu yn y Rhestr Testunau a fyu ar werth ers cyhoeddi'r Eisteddfod fis Gorffennaf.
Gwrthryfel ydi'r testun ar gyfer y Fedal Ryddiaith sy'n cael ei rhoi gan Gangen Dinbych a'r Fflint, Undeb Amaethwyr Cymru.
Rhoddir gwobr ariannol o £750 gan Ymddiriedolaeth Goffa D Tecwyn Lloyd a Chymdeithas Owain Cyfeiliog, Wrecsam.
Beirniaid y gystadleuaeth yw Branwen Jarvis, Hazel Walford Davies a Grahame Davies.
Nofel 50,000 o eiriau neu fwy yw'r gofyn am Y Daniel gydag Emyr Llywelyn, Jon Gower ac Elin Llwyd Morgan yn beirniadu.
Mae hynny dros 925 o eiriau'r dydd os dechreuwch chi arni bore fory - a dal y post Tachwedd 30!