Dyfyniadau
Bwyell Osborne, dyfodol S4C a siom Bryn Terfel ymhlith y pynciau dan sylw wrth gofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf
A gwahoddiad i chwithau bêl rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .
- Ni fu pobl Casnewydd mor unedig erioed - Paul Flynn AS Gorllewin Casnewydd yn ystod y brotest yn erbyn cynlluniau i gau'r swyddfa basbort yno.
- Yn ystod fy nghyfnod i [yn blismon] mi wnes i arestio saith llofrudd a wynebu dynion efo gynnau deirgwaith heb na chŵn na gwn - yr oedda chi jyst yn defnyddio'ch dwylo - Y cyn dditectif Gwyn Roberts o Ddolgellau, ysgrifennydd Cynmdeithas Genedlaethol Plismyn wedi Ymddeol, yn gofidio fod plismyn heddiw yn rhy fychan i wneud eu gwaith yn iawn. Mae o, yn 66 oed, yn chwe tredfedd pedair modfedd ac yn 15 stôn.
- Roedd y capel yn bwysig iawn imi nes i nghoese i fynd a minnau'n methu cerdded - Esther Vickery 109 oed.
- Gwerthoedd Torïaidd ar waith yw'r rhain. Gall y cyfoethog gwyno ond wnan nhw ddim diodde mewn gwirionedd. Pobl dlawd, y sal a'r diwaith fydd yn talu'r pris - Dafydd Wigley yn sgrifennu yn y 'Daily Post' Ddydd Iau.
- Mae llywodraeth San Steffan wedi gosod cynlluniau i geisio denu swyddi a gwella'r economi. Rwyf wedi gweld rhagolygon sy'n awgrymu y bydd yna rywfaint o ergyd ond na fydd hynny'n golygu camu'n ôl i ddirwasgiad - Peter Black AC, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyllid.
- Rydw i'n rhyfeddu at yr agwedd sarhaus mae Llywodraeth Llundain wedi'i dangos nid yn unig at S4C ond hefyd tuag at bobl Cymru ac i'r iaith ei hun - John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.
- Dim - Alun Ffred Jones AC, y gweinidog Diwylliant, pan ofynnwyd iddo fore Mercher faint o wybodaeth gafodd ef am drefn gyllido newydd S4C.
- Newyddion gwych, y ´óÏó´«Ã½ i ysgwyddo'r gost am sianel rybish leiafrifol Gymraeg sy'n debyg o olygu colli swyddo. Athrylithgar - Phil Lavelle o ´óÏó´«Ã½ Breakfast yn anhapus ar Twitter gyda'r trefniant newydd i gynnal S4C. Ymddiheurodd wedyn gan ddweud bod y sylwadau yn "ill-judged".
- Dyfodol disglair iawn - sydd i S4C yn ôl Edward Vaizey AS yr is weinidog diwylliant..
- Fydd yna ddim byd y flwyddyn nesaf. Allai ddim cael dros y siom - Bryn Terfel yn cyhoeddi na fydd gwyl y Faenol 2011 yn dilyn methiant un eleni gyda dim ond 160 o docynnau yn cael eu gwerthu ar gyfer noson opera.
- Yn ystod yr amser y buo nhw'n gweithio ar y ffordd hon mae'r Cynulliad wedi codi tri bloc o swyddfeydd yn Aberystwyth, Cyffordd Llandudno ac Aberystwyth . . . os ewch chi ar y Cyfandir, Ffrainc er enghraifft, fe welwch chi dri neu bedwar o dimau wrthi nes bo'r gwaith wedi ei gwblhau. Yma, maen nhw fel pe bydde nhw'n crafu o gwmpas - Stephen Hughes, rhiant o Lanelwy yn cwyno am yr amser a gymerodd i gwblhau gwaith ar yr A55 gen y ddinas.
- Dydi o ddim yn swnio'n hen ond dydi o ddim chwaith yn swnio'n newydd - Sid McLauchlan cynhyrchydd y recordiad o Bryn Terfel yn cyd ganu 'White Christmas' efo Bing Crosby.