´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Coroni coronau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:08, Dydd Mawrth, 9 Tachwedd 2010

Erbyn hyn mae cynllunydd coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe fis Mai nesaf wedi cychwyn ar daith arbebnnig o amgylch ysgolion y fro.

Yn ystod ei thaith bydd y gemydd Mari Thomas yn beirniadu ymgais disgyblion i gynllunio eu coron eu hunain.

Mae'r cyfan yn deillio o'r ffaith i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Abertawe ddod at ei gilydd i gomisiynu'r goron ar gyfer Eisteddfod 2011 - syniad newydd a gwahanol.

Mari

Fel rhan o'r comisiwn gwahoddwyd Mari i ymweld â'r naw ysgol i feirniadu cystadleuaeth agored rhwng disgyblion i ddylunio'r goron.

Bydd y rhai sy'n gyntaf, ail a thrydydd yn cael ymuno â hi yn ei stiwdio i fod yn rhan o'r gwaith terfynol gyda seremoni fis Ebrill i drosglwyddo'r goron orffenedig i'r Urdd.

Dywedodd Mari, sy'n berchen ar y cyd gyda'r gemydd Nicola Palterman, The Jewellery Gallery and Workshop yn yr Eglwys Norweg yn natblygiad SA1 Abertawe, iddi fod yn edrych ymlaen yn fawr at gael teithio o amgylch yr ysgolion yn edrych ar waith y disgyblion" medd.

"Dwi'n siŵr y bydd ambell un yn fy ysbrydoli yn fy ngwaith o ddylunio coron Eisteddfod yr Urdd.
"Mae gweithio gyda thalent ifanc bob amser yn brofiad gwych ac fe fydd teithio o amgylch yr ysgolion yma'n rhoi cyfle i mi ddod i adnabod rhai o'r disgyblion yn well cyn iddynt ddod draw i'r stiwdio i gymryd rhan mewn gweithdy," meddai.

  • Gwefan y ´óÏó´«Ã½ ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2011

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.