´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dilyn y geiriau - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:50, Dydd Gwener, 10 Rhagfyr 2010

Ymadawiad cadeirydd S4C, gwewyr iselder ysbryd a gobeithion Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd - tri o'r pethau fu'n destun sylw yn ystod yr wythnos a fu.

Darllenwch ddetholiad 'Cylchgrawn' o sylwadau a welwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni ambell i sylw doniol, difyr neu ddwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Yn yr ysgol - doeddwn i ddim yn gradur academaidd o gwbwl - digon di-fflach a bod yn onest; un oedd a'i fryd ar ddim byd amgenach na chicio gwynt - Geraint V Jones y nofelydd yn rhifyn Rhagfyr 2010 o'r cylchgrawn 'WA-w!'
  • Yr ydw i gydol yr amser wedi cadw at fy safbwynt fod darlledu yn yr iaith Gymraeg yn rhan anhepgor o'r cyfryngau ac fe hoffwn ddiolch ichi am ei cyfraniad arwyddocaol iddo - Jeremy Hunt AS, yr ysgrifennydd Diwylliant, yn derbyn ymddeoliad John Walter Jones, cadeirydd Awdurdod S4C.
  • Dwi'n disgwyl nawr i weddill yr awdurdod wneud y peth anrhydeddus a dilyn Mr Jones. Mae'n glir i mi mai'r aelodau sydd wedi bod yno ers peth amser sydd wrth wraidd y problemau - Alun Cairns, AS Ceidwadol Bro Morgannwg, yn ymateb i ymddiswyddiad John Walter Jones.
  • Mae pob llanast yn gyfle - Kevin Davies, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn gweld llygedyn o oleuni ar 'Pawb a'i Farn' yn helynt S4C.
  • Mae tu draw i nealltwriaeth i. Yr hyn sy'n unigrwy, ac sy'n fy synnu i am Forgannwg (Y Clwb Criced) yw, os oes gwahaniaeth barn gyda rhywun ac nad yw eich safbwynt chi yn cario'r dydd yr ydych yn ymddiswyddo ac yn cysylltu a'r wasg. Yr ydych yn cael 48 awr o enwogrwydd ac wedyn yn diflannu i ebargofiant - Paul Russell, cadeirydd Clwb Criced Morgannwg yn dilyn ymddiswyddiadau yno.
  • Pan ofynnwyd [i Martin Luther] beth a wnâi o glywed bod y byd yn mynd i hollti'n chwilfriw yfory atebodd, 'Af ymlaen i blannu fy nghoeden afalau!' I bawb yn y 'mudiad Gwyrdd' rhyngwladol, plannu ein coed afalau yw chwarae ein rhan, er mor fach, i warchod y blaned ryfeddol hon ar gyfer cenedlaethau y dyfodol - Hywel Davies, golygydd .
  • Un o ymgyrchoedd cyntaf y flwyddyn newydd fydd i wneud yn siŵr fod cofnodion trafodaethau'r Cynulliad ar gael yn ddwyieithog - Catrin Dafydd o Gymdeithas yr Iaith yn edrych ymlaen at 2011.
  • Digon hawdd i rai na chawsant erioed mo'r profiad annog rhywun sydd mewn iselder i ymystwyrian, i beidio â bod mor hunanol, i ystyried pobl eraill. Yn y fagddu yna, fedrwch chi ddim gweld neb arall heb sôn am eu hystyried: yn yr unigedd, chi yw'r unig berson sy'n bod - Grace Roberts yn sgrifennu yn 'Y Faner Newydd' am y cysylltiad rhwng ei phrofiad o iselder ysbryd a sgrifennu ei nofel, 'Adenydd Glöyn Byw'.
  • Does yna ddim byd yn elitaidd mewn cael gwasanaethau awyr a rheilffordd rhwng dau ben i wlad - mae'n digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd felly pam nad Cymru - Ieuan Wyn Jones AC y Dirprwy Brif Weinidog.
  • Er bod gen i ddwy radd a darn o dir fedra i yn fy myw ddod i delerau efo'r cyfrolau (186 tudalen yn Gymraeg a rhywbeth tebyg yn Saesneg) sydd ynglÅ·n â Glastir - Llythyr at y Gweinuidog Amaeth yn 'Y Cymro' oddi wrth Berchennog daliad amaethyddol.
  • Peidiwch â rhoi eich hunan na'ch plant mewn perygl - Llefarydd Heddlu Gogledd Cymru yn annog pobl i beidio a phrynu drylliau tegan yn anrhegion Nadolig.
  • Mae unigolion yn eu prynu nhw. Yr ydym wedi cael sawl cais yn gofyn inni gynnwys cerdyn Dolig yn y pecyn. Gofynnodd un am y neges, 'Forgetabout decking the halls, protect your balls. Happy Christmas.' - Will Hocking, pennaeth cwmni sy'n gwerthu tronsiau 'Blast Boxers' sydd wedi eu hatgyfnerhu i amddiffyn milwyr rhag ffrwydradau yn Affganistan.
  • Mae Jack [fy mrawd] a minnau y bumed genhedlaeth i fyw a gweithio yma. Pan fyddai'n gadael rygbi does yna ddim amheuaeth y byddai'n dychwelyd yma - Dan Lydiate y chwaraewr rygbi rhyngwladol sy'n fab fferm ger Llandrindod ym Mhowys.
  • 1.5% - y ganran o rai a holwyd mewn arolwg ar wefan WalesOnline a gredai y gall Cymru ennill Cwpan Rygbi'r Byd yn 2011. Dywedodd 72.8% bod angen Gavin Henson yn ôl yn y tîm.
  • Dw i ddim yn lico meddwl am 'Na' - Rhodri Morgan AC y cyn Brif Weinidog yn edrych ymlaen at refferendwm pwerau'r Cynulliad.
  • Yn sylfaenol, mae'r eira yn ein lladd. Costiodd yr eira ddegau o filoedd o bunnau inni y llynedd - yr ydym yn gobeithio'n fawr ein bod wedi gweld ei gefn o - Gary Phillips o gwmni cludiant Rhys Davies yng Nghaerdydd.
  • Drwyddo draw, ni allaf gefnogi'r pecyn - Jenny Willott AS Canol Carerdydd.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.