´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pryd o Dafod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:41, Dydd Gwener, 24 Rhagfyr 2010

Y tywydd a cholled hyfryd Sion Corn - dau o'r pethau fu'n destun sylw yn ystod yr wythnos a fu.

Darllenwch ddetholiad 'Cylchgrawn' o sylwadau eraill hefyd a welwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Y mae yna'n dal lawer o eira ar y llawr a dyw e ddim yn mynd i ddiflannu'n sydyn - Andy Ratcliffe o MeteoGroup ddydd Mercher.
  • Gwelliant busnes sylweddol sy'n cynnal popeth a wnawn - Llefarydd y Cynulliad am system gyfrifiadurol gwerth £40m i gynorthwyo llunio polisi . . . OND

  • O'm safbwynt i - a dydw i ddim ar fy mhen fy hun - mae'n wastraff arian llwyr - 'Ffynhonnell' ddienw yn y 'Western Mail' am yr un system.


  • Roedd Izaak a Pip yn fechgyn arbennig, wrth eu bodd gyda threnau, pêl-droed a cheir a phyllau dŵr. Roedd y ddau yn derbyn y cariad a roddwyd iddyn nhw ac yn ei roi yn ôl gan mil a mwy. Fyddan byth yn colli eu diniweidrwydd a'u rhyfeddod at y byd . . . Fe fyddan nhw am byth yn fechgyn bach hyfryd - Nicholas Smith, tad mewn tÅ· yn Nhrawsfynydd.
  • Yr ydw i wedi dod yn seren sebon. Dyw e ddim beth oeddwn i eisiau ond rhaid imi fyw â'r peth - Charlotte Church.
  • Mae'n bwysig fod pobol ddim yn mynd i yddfau ei gilydd - Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y ´óÏó´«Ã½ dros Gymru yn sôn am y trafodaethau cyllido S4C sydd ar y gweill.
  • Yr ydw i am fod yn fam wych iddo. Mae'n berffaith ac rwyf am roi iddo bopeth fydd e'i eisiau - April Webster o Gaerffili sydd newydd gael babi gyda Nathan Fishbourne. A'r ddau yn 14 oed hwy yw rhieni ieuengaf Prydain yn ôl y 'Wales on Sunday'.
  • Mae gan y tri alluoedd lleisiol ac mae gan yr hynaf fariton bâs hyfryd. Ond dydw i ddim yn meddwl y byddai'n diolch imi am ddweud hynny wrthych - Bryn Terfel yn sôn am alluoedd cerddorol ei feibion wrth y 'Wales on Synday'.
  • Cytuno ag ef neu beidio mae'n dal yn un o fwystfilod mawr gwleidyddiaeth Cymru - Matt Withers, gohebydd gwleidyddol y 'Wales on Sunday' am yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.
  • Y mae gen i bob bwriad dod yn ôl. Rwy'n gobeithio bod yn ôl yn y Senbedd yn y Flwyddyn Newydd - Brynle Williams AC yn dilyn dwy driniaeth lawfeddygol i wella canser.
  • Y mae rhewgelloedd yng Nghymru yn cynnwys cyfanswm o werth £43 miliwn o fwyd - Eitem bnewyddion yn y 'Daily Post'. Gall y ffigwr hwn newid ddydd Sul, siŵr o fod.
  • Yr wy'n ei hoffi'n fawr, i weld fy wyrion a siarad â nhw ond y mae'n gwastraffu llawer o amser [person] - Linda Lowe, 103 oed o Ddinbych-y-pysgod, defnyddiwr hynaf 'Facebook', yn canmol y cyfrwng ac yn gweld ei ddiffygion.
  • Tristwch . . . oedd clywed rhywun ar 'Bwrw Golwg' (Rhagfyr 5) yn galw gwyddoniaeth yn elyn. Mae angen goleuo pobl o'r fath - John Gruffydd Jones mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
  • Bu'n waith caled ond yn bleserus iawn yr un pryd - Andrew Craig o Gaernarfon a dynghedodd i gerdded i gopa'r Wyddfa bob wythnos eleni gan godi £15,000 tuag at ymchwil canser y fron. Bydd yn cychwyn ar ei daith olaf, rhif 52, ddydd Llun.

  • Hoffwn i ddim amharu ar eich hwyl wrth ddarllen am y llond sach o ddanteithion sy'n eich aros eto eleni. Ond mae eleni yn wahanol a theimlaf orfodaeth arnaf i'ch atgoffa o'r penderfyniadau gwleidyddol sy'n bygwth nid yn unig gynnwys a chyllid y Sianel ond dyfodol tymor hir y gwasanaeth yn arbennig wedi 2015 - Arwel Ellis Owen yn cyflwyno rhifyn Nadolig 2010 o Sgrin, cylchgrawn rhaglenni S4C.


  • Y peth gorau wnes i rioed oedd colli'r llyfr efo enwau plant drwg ynddo fo. Rwan mae PAWB yn cael presant - Santa yn cael ei holi yn rhifyn Rhagfyr o WA-w!
  • Dwi'n poeni am fy mywyd os oes rhaid i mi ddychwelyd; fydd gen i unlle i fynd, unlle i fyw na neb i aros gyda nhw - y mae Llywodraeth am ei anfon yn ôl i Bacistan wedi iddo gyrraedd ei18 oed ddydd Nadolig. Cafodd ei smyglo i Brydain yn 14 oed oherwydd pryderon y byddai'n cael ei ladd gan elynion ei dad.
  • Dyw'r hyn yr ydw i'n ei wneud yn ddim o gymharu â'r hyn maen nhw'n ei wneud - Gwyn Jones, 53 oed o'r Gaerwen, Ynys Môn, sydd wedi gyrru dros fil o filltiroedd mewn cerbyd 4x4 yn cario nyrsys i'w gwaith yn ystod yr eira.
  • Fy hun, rwy'n beio Bryn Terfel a Bing Crosby - gwraig wrth ei gŵr mewn cartŵn yn 'Y Cymro' gan Tegwyn Jones. Y ddau at eu canol mewn eira.
  • Nadolig llawen ichi - Bron i bawb yr ydych yn eu cyfarfod. Diolch i'r drefn.
  • Mae na ffrynt yn dod o Fôr Iwerydd . . . - Rhian Haf ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru yn darogan rhagor o eira ar gyfer y dyddiau wedi'r Nadolig.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.