´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dychweliad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 17:06, Dydd Llun, 21 Chwefror 2011

Yn y papur Sul cawsom wybod dipyn mwy am fenter fawr yr actor Michael Sheen ym Mhorth Talbot dros y Pasg.

Bydd yn dychwelyd i fro ei febyd i gymryd rhan mewn pasiant tri diwrnod nas gwelwyd ei debyg erioed o'r blaen yng Nghymru.

Yr actor sydd wedi bod yn wyneb Tony Blair, Brian Clough a David Frost mewn ffilmiau fydd yn chwarae rhan y prif gymeriad "Crist debyg" yn y pasiant ac yn cyfarwyddo.

Bydd yn cario croes drom o bren drwy'r dref i draeth Aberafan ac yn cael ei groeshoelio ger canolfan ddinesig Nedd a Phorth Talbot.

Bydd Swper Olaf hefyd - mewn clwb cymdeithasol lleol.
Ac yn ôl y Wales on Sunday ddoe mae disgwyl mawr y bydd ei gariad, yr actores o Ganada, Rachel McAdams, yn bresennol.

Mae'r holl beth wedi ei sylfaenu ar ddrama'r Dioddefaint a berfformiwyd yn y dref pan oedd Sheen yn fachgen.

Ar gyfer fersiwn 2011 bydd 'Crist' yn cyrraedd o'r môr bnawn gwener y Groglith ger glanfa'r bad achub a bydd oddeutu mil o bobl leol yn cymryd rhan dros y tridiau a rhyw 14 o actorion proffesiynol yn cynnwys y comedïwr Rob Brydon.

Ond er cymaint o ddyfeisgarwch fydd ynglŷn â'r cynhyrchiad a gyfarwyddir gan Sheen fydd o ddim yn ôl y papur yn cerdded ar y dŵr! Mae hynny y tu draw i dechnegau presennol!

O ddarllen am hynny a'r fenter yn gyffredinol fe'm hatgoffwyd o gerdd y diweddar Harri Webb, Local Boy Makes Good, sydd hefyd yn ymwneud ag ail ddyfodiad Crist ac i'w gweld yn ei gyfrol The GreenDesert a gyhoeddwyd yn 1969.

Dyfalu mae Harri Webb sut ymateb gaffai Crist pe dychwelai i Gymru heddiw - i ardal Merthyr yn benodol.

When Christ was born on Dowlais Top
The ironwoks were all on stop

yw ei gwpled agoriadol ac mae'n troi wedyn at y derbyniad a gai rhai o wyrthiau Iesu yn y cyfnod modern gan gynnwys:

When Christ walked on Swansea Bay
The people looked the other way
And murmered, This is not at all
The sort of thing that suits Porthcawl
.

A phan yw'n bwydo'r di-waith:
The authorities were most annoyed:
He hadn't gone through the proper channels.

A diwedd y daith yw cael ei grogi yng ngharchar Caerdydd.

When Christ was hanged in Cardiff jail
Good riddance said the Wester Mail,
But, daro, weren't all their faces red
When he came to judge the quick and the dead.

O droi at y Green Desert fu hi ddim yn anodd oedi i fwynhau cerddi eraill y gyfrol wych honno a chael fy atgoffa unwaith eto pam yr oedd Harri Webb - awdur Colli Iaith wrth gwrs - yn fardd mor boblogaidd.

Cam bychan wedyn oedd mynd i chwilio am yr LP hwyliog a wnaed o gerddi'r bardd dan yr un teitl. Ac ydi, mae Local Boy Makes Good yno i'w chlywed.

Bu'n bnawn annisgwyl o ddifyr.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.