Nia yn Abertawe - dydd Llun
![Nia lloyd Jones](/staticarchive/0f834810f2215c4b85658731e137ea426f615f50.jpg)
Wel dyma ni unwaith eto!! Wir i chi - mae gweithio yn Eisteddfod yr Urdd fel mynd i aduniad teulu - a phawb yn dod ynghyd i ddathlu.
Ac mi ddechreuodd pethau'n dda y bore ma. Y seren gyntaf yn yr Eisteddod eleni oedd Tomi Llywelyn o Ysgol Gynradd Llanrug. Mae Tomi yn eisteddfodwr profiadol iawn - a dim ond chwech oed ydi o!
Mae o hefyd yn gefnogwr tîm pêl-droed Manchester United ond fe aeth o un cam yn well na'r Red Devils drwy gyflawni'r dwbl ac ennill yr unawd alaw werin a'r unawd gerdd dant!
![Nia efo Tomi, Glain a Gwenan](/staticarchive/0f2c0fbf503d0c2dec8649d020117f9091e8d074.jpg)
Mae o hefyd wedi ennill trip i Euro Disney, ac fel y gallwch chi ddychmygu roedd o - a'i chwaer Leisa wrth eu boddau!
Chwythwrs o friDwi'n gwybod ein bod ni bob blwyddyn yn tynnu sylw at safon yr offerynwyr ac unwaith eto eleni mae'n rhaid nodi bod y safon yn arbennig.
Ymhlith y cystadleuwyr yn y gystadleuaeth i'r ensemble offerynnol yr oedd Ysgol Gynradd Cwmgors. Hanner cant o blant sydd yn yr ysgol ac roedd 'na naw ohonyn nhw ar y llwyfan heddiw a phob un yn chwythu i'r eithaf!
Steddfod Mam Rŵan ta fel arfer mi fydda i'n edrych ymlaen yn ofnadwy at ddydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd - diwrnod y rhai bach. Ond y bore 'ma dyma fi'n deffro a'm stumog i'n troi!
Unwaith eto roeddwn i'n gwisgo fy het 'mam eisteddfodol' gan fod Elin yn cystadlu ar yr unawd piano dan 12 oed.
![Nia efo Dafydd, Elin ac Andria](/staticarchive/a291c3346ffecc45feafc50238ce05e65204674f.jpg)
Fe fuon ni yn y sefyllfa hon y llynedd hefyd - ond eleni cyrhaeddodd Elin y llwyfan!! Wel os oeddwn i'n swp sâl cyn hynny roeddwn i'n waeth byth wedyn!
Diolch byth - fe aeth y perfformiad yn iawn ac roedd hi'n gystadleuaeth dda. Llongyfarchiadau mawr i Dafydd Chapman ddaeth i'r brig - disgybl blwyddyn 4 ydi o yn Ysgol Melin Gruffydd ac mae o'n ymarfer am ddwy awr bob dydd!
Anhygoel!!
Andrea Jones o Ysgol Gynradd y Dderwen oedd yn ail ac, ie, Elin Lloyd Grffiths o Ysgol Gynradd Llanfairpwll yn drydydd.
A dyna ni am heddiw - dechrau da i wythnos brysur!
Nia