Canwr y Byd 2011 - Dydd Mawrth
Blog dyddiol Gwyn Griffiths o'r gystadleuaeth
Prynhawn Mawrth
Wythnos y merched?
Gŵyr y rhai hynny ohonom sydd o frîd eisteddfodol ac yn dilyn hynt ´óÏó´«Ã½ Canwr y Byd Caerdydd ar y wefan Gymraeg pwy fydd ar lwyfan terfynol cystadleuaeth y Datganiad ers prynhawn ddoe.
Bu gennyf fy ffefrynnau o'r cychwyn ac yr oeddwn wrth fy modd yn clywed cyhoeddi enw'r baritôn ifanc 24 oed o'r Wcráin, Andrei Bondarenko.
A'r soprano Valentina Naforniţä o Foldofa, hithau eto ond 24 oed.
A phan ddaw chwaraewr wrth gefn i'r maes a gafael yn ei gyfle bydd pawb wrth eu boddau a dyna wnaeth Olga Kindler, y soprano 30 oed, a aned yn Odessa yn yr Wcráin ond a gafodd alwad munud olaf oherwydd salwch y canwr o Wlad Pwyl.
Gan iddi fyw am flynyddoedd yn Y Swistir, cynrychioli'r wlad honno fydd hi ond gall yr Wcráin ymffrostio y bydd dau o'r wlad ar lwyfan y Datganiad yn Neuadd Dewi Sant nos Wener.
Daeth y ddwy arall trwodd o rownd ragbrofol prynhawn dydd Mawrth. A'r ddwy olaf i ganu oedden nhw. Wythnos y merched yn ddiau - un bachgen a phedair merch!
Y ddwy oedd Máire Flavin, mezzo 28 oed o Iwerddon a soprano arall eto, Leah Crocetto, 31 oed o'r Unol Daleithiau.
Sy'n rhoi rheswm i mi sôn ychydig am brynhawn ddoe. Y gyntaf i ganu oedd Hye Jung Lee, soprano 27 oed o Dde Corea a chanddi bersonoliaeth fywiog a thechneg ofalus.
Clywsom berfformiadau canmoladwy ganddi o ganeuon gan Purcell, Richard Strauss, Louis Beydts a William Walton.
Ond cael ein cadw hyd braich oeddem, heb gael ein cofleidio gan ei pherfformiad.
Ni chynheswyd y gynulleidfa gan y baritôn o'r Eidal, Davide Bartolucci, chwaith - a chafwyd cynulleidfa deilwng yn y cyngherddau prynhawn yn y Theatr Newydd eleni - er iddo ganu caneuon swynol a digon cyfarwydd gan Beethoven a Fauré.
Pleser bob amser yw clywed datgeinydd yn canu caneuon o'i wlad neu ei fro a chawsom ddwy gân yn nhafodiaith Fienna ganddo, cerddoriaeth y ddwy o waith Reynald Hahn.
Yna, wedi'r egwyl, daeth y Wyddeles Máire Flavin o Ddulyn i'r llwyfan a thaniwyd y gynulleidfa gan ferch arall brofiadol, aeddfed - y pecyn llawn. Hoeliodd ein sylw'n llwyr gyda'i chân gyntaf, Widmung gan Schumann.
Cafwyd perfformiad llawen a difyr ganddi o La souris d'Angleterre gan Manuel Rosenthal, llygoden fu'n achosi trafferthion yn yr Hotel d'Anglesterre, Calais, gan wrthod cael ei hudo i'r fagl gan gawsiau Ffrainc, y Swistir, yr Iseldiroedd nes yn y diwedd iddi gael ei themtio gan gaws o Loegr.
Gorffennodd gyda chyflwyniad digyfeiliant o The Lake Isle of Innisfree - geiriau W. B. Yeats i gerddoriaeth Philip Martin.
Llwyddodd yr Americanes Leah Crocetto i gynnal y cynhesrwydd hwnnw a daniwyd gan Máire Flavin.
Tair cân gan Rakhmaninov - un ohonynt oedd Vocalise a gyfansoddodd heb destun lle caiff y datgeinydd ryddid i ganu un llafariad o'i dewis gyda'r gerddoriaeth.
Nid at fy nant i - ond fedrwch chi byth blesio pawb. Nid oedd arlliw ei llais yn fy mhlesio'n fawr 'chwaith ond all neb amau ei dawn a'i gallu.
Cawsom ddwy gân wedyn o waith Barber a dwy i orffen gan y Sbaenwr Ferran Obradors, perfformiadau doniol a hyfryd.
Fedrwn i byth gwyno gyda dewis y beirniad - er fy mod yn siomedig nad oedd lle i Olesya Petrova o Rwsia nac i Sasha Djihanian o Ganada.
Ond ar draul pwy? Hwyrach y cânt well lwc yn y gystadleuaeth arall.
Nos Fawrth
Llwyddiant Lloegr
Cafwyd digwyddiadau digon rhyfedd rhwng y ddwy gystadleuaeth eleni. Ni chafodd Meeta Raval, y soprano sy'n cynrychioli Lloegr, hwyl o gwbl yn y Theatr Newydd nos Sul a deuthum i'r casgliad nad oedd hi fawr o beth.
Ond yn Neuadd Dewi Sant, yn canu i gyfeiliant Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gwelwyd gweddnewidiad syfrdanol ac yr oedd hi'n haeddu gwobr y noson heb amheuaeth ac er bod tair noson arall i fynd mae ganddi obaith da iawn o gyrraedd y llwyfan terfynol nos Sul.
Neithiwr yr oedd ei llais yn llawer mwy swynol, yn llawnach a'i chanu'n llawn hyder. Perfformai'n ddramatig gyda'i hwyneb a'i llygaid yn fflach o emosiynau. Gwelsom, yn arbennig yn ei pherfformiad o Mercè, dilette amiche gan Verdi fod ganddi ddoniau cerddorol, llais a dawn actio gyda'r gorau.
A thra yr oedd hi'n carlamu rhagddi yr oedd y lleill yn llithro am yn ôl. Disgwyliwn rywbeth arbennig gan Wang Lifu, y baritôn ifanc o China a chafwyd perfformiadau teilwng ganddo o gyfansoddiadau o waith Mozart, Mahler a Verdi ond er mor ddramatig ni allai herio'r Saesnes o dras Asiaidd.
Yr oeddwn wedi rhagweld pethau mawr gan Sasha Djihanian, y soprano o Ganada. Ond neithiwr yr oedd ei nodau uchaf hytrach yn denau er cyfoethoced ei llais wrth ganu'r nodau canol. Yr oedd ei pherfformiad olaf o Me voilà seule o Les pêcheurs de perles gan Bizet yn fendigedig.
Eisoes yr oedd y ferch a gynrychiolai'r Swistir wedi cael y newydd da ei bod yng nghystadleuaeth derfynol y Datganiad nos Wener. Dyma soprano Wagneraidd o'r hen steil - cryf, aeddfed a cherddorol.
Cychwynnodd gyda Dich, teure Halle allan o °Õ²¹²Ô²Ô³óä³Ü²õ±ð°ù gan Wagner a gorffen gyda pherfformiad emosiynol o Ritorna vincitor! allan o Aida gan Verdi. Cawsom ganu urddasol ganddi a hi oedd yr unig un a roes wir her i'r Saesnes.
Daeth y noson i ben gyda'r soprano ifanc o Chile, Marcela González. Bu hi'n anhwylus a phenderfynodd beidio a chanu yng nghystadleuaeth y Datganiad a chadw'i llais ar gyfer neithiwr.
Ond yr oedd yn amlwg nad oedd wedi gwella'n llwyr a dewisodd beidio a chanu'r gân olaf ar ei rhaglen. Mae ganddi lais tlws a hyfryd a chyflwynodd berfformiad dymunol iawn o Je veux vivre allan o Roméo et Juliet gan Gounod.
Ond 'doedd neb o safon Meeta Raval. enillydd teilwng iawn.