´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Fel y dwedwyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:13, Dydd Gwener, 24 Mehefin 2011

Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.


  • Dyw e ddim yn rhywbeth yr ydych yn disgwyl iddo ddigwydd - Nick Culliford, rheolwr gyda chwmni bysiau Dyffryn Tanat wedi i blentyn dwyflwydd oed deithio am dri chwarter awr ar ei ben ei hun ar fws o Drefynwy i Amwythig heb i neb sylweddoli hynny.
  • Peidiwch â'i wneud oherwydd eich bod eisiau rhywbeth - gwnewch o oherwydd bod gennych rywbeth i'w roi - Cyngor Victor Spinetti i ddarpar berfformwyr wrth gael ei holi ar y teledu yn nathliadau agoriad Coleg Cerdd a Drama Cymru ar ei newydd wedd, ddoe.
  • Mae Caryl Parry Jones yn fyw - pennawd ar dop dalen flaen 'Y Cymro' heddiw.
  • Rhoi Efa Gruffudd Jones mewn ystafell am 12 awr gyda Twm Dim Dant a Bil Bol Mawr. Gadael iddi fyfyrio am dipyn beth yw union gyfrifoldeb yr Urdd tuag at blant, ac yna ei holi os yw nawdd o'r fath yn help i'w hiechyd - Angharad Tomos yn Yr Herald Cymraeg, y 'Daily Post', yn amheus o ddoethineb yr Urdd yn derbyn nawdd gan McDonalds a Coca Cola i ŵyl chwaraeon newydd y mudiad.
  • Fel arfer cwmnïau ffilmiau sy'n talu am osod y seren ond dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni yng Nghymru yn codi'r arian ein hunain. Byddai Richard Burton wedi bod yn falch o weithred o'r fath ac mae'n dangos ein gwerthfawrogiad fel gwlad o'i dalentau - Yr Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol Cymru sydd y tu ôl i fenter i gasglu £28,000 i dalu am seren i Richard Burton ar rodfa'r enwogion yn Hollywood.
  • Doedd o ddim yn dallt yr un gair ac yn meddwl ein bod ni'n cymryd y piss - un o gwsmeriaid tÅ· tafarn ym Mhenrhyndeudraeth yn wedi i gwsmeriaid fod yn canu emynau.
  • Roedd ganddo gymeriadau gwych fel y teulu Gurkas a mwy yn digwydd mewn un bennod na mewn cyfres gyfan o Poerthpenwaig - Wayne Roberts o Gaernarfon yn galw am ddychweliad 'Tipyn o Stad' i S4C mewn llythyr yn 'Golwg'.
  • Lladd speiders hefo darn o dishw - Euron Griffith, awdur nofel newydd, Dyn Pob Un, yn ateb cwestiwn 'Golwg', 'Beth ydych chi'n dipyn o arbenigwr ar ei wneud?'
  • Gyda Llywodraeth Cymru bellach â'r modd i lunio'i deddfau ei hunan mae yna wersi i'w dysgu gan yr hen gyfreithiau. Roedd y sawl wnaeth eu llunio yn effro i bosibiliadau'r iaith lafar - i wneud pethau'n ddealladwy ac i roi lliw a bywyd i iaith ffurfiol - Ifor ap Glyn, cyflwynydd 'Ar Lafar' ar S4C yn gweld gwersi yn hen gyfreithiau Hywel Dda i rai sy'n llunio deddfau heddiw.
  • Mae Awdurdod S4/C yn chwilio am Brif Weithredwr i arwain y Sianel drwy heriau a chyfleoedd y dyfodol - Hysbyseb S4/C yn y wasg ddoe.
  • Prif ddiddordeb yr enwadau bellach yw eu parhad eu hunain nid ymestyn Teyrnas Crist - Dafydd Andrew Jones mewn llythyr yn .
  • Rwyf eisiau sicrhau bod ein mynydd-dir yn berwi o sŵn teuluoedd yn mynd o gwmpas eu busnes ar eu ffermydd - Emyr Jones, llywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru.
  • Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i gydweithio â phob plaid i sicrhau datrysiad terfynol - yn y Cynulliad wedi i'r heddlu ddweud na fydd dau aelod a waharddwyd yn cael eu herlyn.
  • Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos nad yw rhieni di-Gymraeg yn teimlo fod y ffaith nad ydynt yn siarad yr iaith eu hunain yn rhwystr rhag anfon eu plant i ysgolion Cymraeg - , cadeirydd Bwrdd yr Iaith.
  • Hunan fodlonrwydd, tan berfformiad a biwrocratiaeth disynnwyr - Geiriau Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant, i ddisgrifio gweithgarwch awdurdodau lleol y wlad.
  • Unwaith yr ydych yn denu carfan arbennig o bobl yr ydych yn cael yr apêl paparazzi yna ac fe all pethau gael cychwyn iawn - Arwyn Morgan o faes rasio Ffos Las yn dilyn ymweliad y Tywysog Charles, ddoe.
  • Dyma'r tro cyntaf i mi agor tafarn. Mae The Gull and Leek yn adnodd newydd gwych - a ddewiswyd i agor tafarn fwyaf deheuol Cymru ar Ynys Echni.
  • Mae'n drueni bod gwleidyddiaeth wedi dod yn rhan o'r peth - Capten pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, sydd o blaid cael Cymry mewn tîm Prydeinig ar gyfer y Gemau Olympaidd.
  • Mae Dai eisiau mynd - Cadeirydd tîm rygbi Gleision Caerdydd yn dilyn straeon y bydd yr hyfforddwr, Dai Young, yn ymuno â'r Wasps.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.