´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyffro a chythrwfl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:19, Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2011

A hithau'n dathlu ei chanrif a hanner eleni mi fu na o'r cychwyn bwyslais mawr ar hel atgofion gydag Eisteddfod |Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.

Mae hynny'n amlwg iawn yng nghyfrol Rhaglen y Dydd .

Clawr Rhaglen y Dydd

Dros y blynyddoedd diwethaf ers chyhoeddi yn ei diwyg presennol yn Eisteddfod Môn 1999 mae Rhaglen y Dydd wedi tyfu'n gyhoeddiad sy'n rhoi inni lawer mwy na gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn ystod yr wythnos gyda 'i dewis difyr o atgofion a hen luniau.

Mae hynny'n arbennig o wir eleni gydag adran arbennig i nodi'r ganrif a hanner o Steddfota yn cychwyn ar ddalen - wel, pa un arall ond 150!

Aberdâr yn 1861 oedd y man cychwyn wrth gwrs ond gan mai yn Wrecsam yr ydym eleni mae llawer o'r atgofion yn troi at y dref honno gyda lluniau cynnar iawn o 1876, 1911 1933 a Rhosllannerchrugog 1945 er enghraifft.

Ymhlith yr atgofion y mae rhai Alun Davies a oedd yn 12 oed ac yn facwy ym Mhrifwyl 1933.

"Y diwrnod mawr oedd Dydd Iau - diwrnod traddodiadol Lloyd George â'r Eisteddfod . . . Cofiaf Lloyd George yn cyrraedd mewn Rolls Royce a chael ei wisgo yng ngynau'r Orsedd ac iddo ddweud rhyw air caredig wrthyf," meddai.

Yn y llun, Alun sy'n sefyll nesaf at y gwleidydd mawr.

Mae Steddfod y Rhos 1945 yn cael ei chofio wedyn am i un o'r cystadleuwyr darfu ar y gweithgareddau yn ystod beirniadaeth y Goron.

Er i 25 gystadlu penderfynodd Iorwerth Peate, wrth draddodi'r feirniadaeth, mai ond wyth haeddai eu crybwyll o'r llwyfan er mawr ddiflastod i'r gynulleidfa a'r cystadleuwyr eraill.

Parodd hyn i un o'r cystadleuwyr, R R Williams, Trethomas, godi ar ei draed a'i chychwyn hi'n fygythiol am y llwyfan gan weiddi, "Rydw i'n un o'r beirdd a gystadlodd, a rydw i wedi dod yr holl ffordd o dde Cymru, ac yn gorchymyn fy mod yn cael clywed fy meirniadaeth."

Eisteddfod 1912 wedyn yn cael ei chofio am wrthdystiadau y Suffragettes ar y Maes a'r ffordd annynol y cawsant eu trin.

Mae cyfle yn y Rhaglen hefyd i ddarllenwyr brofi eu gwybodaeth eisteddfodol gyda 150 o gwestiynau mewn 'Cwis Mawr 150' sy'n cychwyn gyda'r cwestiwn digon syml, Pa flwyddyn y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf ar ei ffurf bresennol?

Ond mae'n mynd dipyn mwy dyrys wedi hynny.

Wel, wyddoch chi sawl gwaith cafodd y Fedal Ryddiaith ei hatal neu sawl milltir o beipiau dŵr ddefnyddir ar hyd y Maes?

Mae gennych tan Fedi 30 i ddod o hyd i'r atebion a'u hanfon i mewn. Cofiwch ddod a'ch tâp - nid tap - mesur efo chi i Wrecsam.

Pris Rhaglen y Dydd ydi £9.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.