´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dewis eu geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:24, Dydd Gwener, 15 Gorffennaf 2011

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


  • Mae Cymru yn rhedeg drwy fy DNA. Yr ydw i'n Gymro balch ac yn unoliaethwr balch - Andrew R T Davies AC a ddewiswyd yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol.
  • Yr oeddwn i wir eisiau cael gorffen â'r holl beth cyn gynted â phosib a chael myn yn ôl i wely - Richard Parks sydd newydd gwblhau ei Her 737.
  • Pam S4C? Pam mewn difri lladd rhywbeth sy'n gweithio - Cri o'r galon yn gan Gwyn Llewelyn yn dilyn y newyddion bod dyfodol 'Wedi 7' yn y fantol, rhaglen y mae'n ei disgrifio fel "papur bro cenedlaethol - effeithiol a dibynadwy".
  • Un pwynt bach mewn perthynas a'ch pennawd, 'Huw Jones yn wfftio'r beirniaid'. Yr hyn wnes i oedd gwrthod y feirniadaeth, nid wfftio'r beirniaid. Mae yna wahaniaeth pwysig - Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C mewn llythyr yn 'Golwg'.
  • Mae Duw wedi defnyddio'r Gynhadledd i'n tywys i yfory newydd yn y Gymru hon - Y Parchedig Andrew lenny, Llywydd Undeb yr Annibynwyr yn dilyn cynhadledd yr Undeb ym Môn.
  • Nid oes dim yn sicrach erbyn hyn na bod y Duw byw ar waith ymhlith Cristnogion Cymru - Y Parchedig Alun Tudur yn 'Y Tyst' dilyn cyfarfod Undeb yr Annibynwyr ym Môn.
  • O ardal o'i maint (rhyw 4,500 o drigolion) a oes ardal arall a ddeil ei chymharu â hi? - Bruce Griffiths yn tybio yn rhifyn haf 'Y Casglwr' mai Blaenau Ffestiniog yw "Tref fwyaf llengar Cymru" ar sail cyhoeddiadau niferus ei thrigolion.
  • Rydw i wedi cynllunio cloch sy'n gallu creu sawl nodyn gwahanol yr un pryd pan mae'r môr yn llifo yn ei herbyn - Marcus Vergette, arlunydd sydd wedi creu .
  • Mae'n newid reit braf o'r Deyrnas Unedig lle nad ydyn nhw'n cael llawer o barch am yr hyn wnânt - Sara Elen Thomas, cariad y beiciwr Geraint Thomas sy'n cystadlu yn y Tour de France.
  • Mi fyddai fy mam, Val, yn chuffed achos hon yw ei hoff sioe ond mae yna'r ffaith yna nad ydw i'n edrych yn dda mewn lycraf - Robbie Savage yn ymateb i'r darogan y bydd yn cymryd rhan yn y gyfres nesaf o 'Strictly Come Dancing'.
  • Tref fechan gyda llawer o deimladau negyddol - Disgrifiad Irene Allen, pennaeth Spirit Rescue International, o Lanelli, sydd yn "hotbed" a weithgarwch paranormal medda hi yn y 'Wales on Sunday'.
  • Rwy'n credu ei fod yn dal mewn sioc ar y funud - Sara Manchipp, siaradwraig Gymraeg 21 oedd o Faglan sydd wedi ei choroni yn Miss Wales, yn sôn am ymateb ei chariad, Shaun.
  • Dydw i ond yn fachan cyffredin; wrth fy modd yn darllen Harry Potter a mynd allan i Oceana am noson allan - Rhodri Ihenacho o Gaerdydd sydd newydd ei ddewis yn Mr Wales. Dywedodd wrth y 'Wales on Sunday' iddo fod yn sengl "am hydoedd" a'i fod yn chwilio am gariad.
  • Gyda phob dychymyg fydd hi ddim yn hawdd ond dyna, yn sicr, yw ein nod - Gary Speed yn dadlau bod gan Gymru "obaith gwirioneddol" cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2014 er ein bod ymhlith yr isaf o dimau'r byd.
  • Efallai y dylai'r disgwyliadau fod ychydig yn is. Oni bai eich bod yn Lionel Messi dydy chi ddim yn mynd i sgorio ym mhob gêm - Robert Earnshaw, y pêl-droediwr, a'i draed ar y ddaear wrth ddychwelyd i Gaerdydd.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.