´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau Rhai

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:13, Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

  • Y tro diwethaf i'r wlad dyfu cyn lleied o'r hyn mae'n ei fwyta oedd 1968 - Emyr Jones, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, yn mynd i'r afael â chyflwr amaeth Cymruwythnos y .
  • Yr oedd o jyst yn teimlo'n iawn - Meilyr Breese o Lanfaglan a ofynnodd mewn digwyddiad yn y Sioe Amaethyddol i'w gariad, Gwenno Griffth, llysgenhades Sir Gaernarfon, a fyddai'n dyweddïo ag ef.
    "Fe'u gwelais yn sefyll yng nghanol y stafell. Pan roddodd Meilyr gusan iddi roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth yn digwydd achos fel rheol mae o'n reit swil. Wedyn dyma Gwenno yn sgrechian ac fe stopiodd popeth. Yr oedd yn hyfryd, yn emosiynol iawn," meddai Kit Ellis is-gadeirydd Sir Gaernarfon wrth y 'Daily Post'.
  • Doedd dim amynedd mynd i nôl bwyd, doeddwn i ddim eisio siarad efo pobol a rhyw bethau fel'na . . .Ond eto pryd ro'n i'n cyrraedd yna, o'n i'n iawn! O'n i jyst yn teimlo, mod i am gasau popeth - Glyn Wise yn sôn yn am gyfnod o iselder wedi 'Brig Brother'.
  • Dw i'n gobeithio bod y gwaetha wedi pasio a gall y sianel fynd o nerth i nerth - Ifan Jones Evans, cyflwynydd 'Rasus' ac 'Y Goets Fawr' yn obeithiol yn Golwg am ddyfodol S4C.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys menywod, cymunedau lleiafrioedd ethnig a phobl anabl - Hysbyseb Llywodraeth Cymru am Gomisiynydd y Gymraeg.
  • Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn arweinydd egniol a thosturiol, yn hoff o gymdeithasu ac yn berchen ar synnwyr digrifwch - Hysbyseb am Weinidog i Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Toronto, Canada.
  • Er gwaetha'r dôpio a'r twyllo mae 'na rywbeth Cristnogol iawn am Le Tour! - Mari Fflur yn am râs feics y Tour de France lle mae galw meddai ar y cystadleuwyr i fod yn anhunanol ac aberthu corff ac enaid er mwyn i eraill gael elwa.
  • Y mae fel bod â babi heb ddim o'r mwynhad - Fiona Phillips yn tynnu sylw at adfyd y rhai hynny sydd â chlaf Alzheimer's yn y teulu. Cyflwynodd Prifysgol Caerdydd gymrodoriaeth iddi am ei gwaith ymgyrchu yn y maes.
  • Dim smocio; mwy o weithgaredd corfforol; Mwy o weithgarwch meddyliol; Rheoli pwysedd gwaed; Rheoli clefyd siwgr; Rheoli pwysau; Rheoli iselder - saith peth i wrthsefyll Alzheimer's yn ôl y 'Western Mail'.
  • Dwi'm wedi mwynhau gwylio S4C cymaint ers talwm. Mwy os gwelwch yn dda - Bethan Gwanas yn atodiad Yr Herald Cymraeg yn y dail Post yn canmol cariad@iaith.
  • Yr ydw i'n dal i gael y tywydd a'r wyddoniaeth y tu ôl iddo yn gyfareddol - Sian Lloyd yn dathlu ugain mlynedd o gyflwyno'r 'Tywydd' ar y teledu.
  • Mae gen i lwyth o brosiectau diddorol i ddod. Mae pethau'n ddau - Bywyd Imogen Thomas yn y cyfnod ôl-Giggs.
  • Y mae'n rhywbeth y gall Dwayne a minnau ei wneud a fydd yn ein cadw'n ffres yn feddyliol - Stephen Jones sydd wedi ymuno â Dwayne Peel ac eraill i agor tÅ· bwyta, Sosban, yn Llanelli.
  • Mae'n fy rhyfeddu i braidd fod enw Gavin Henson ymhlith y rhai sy'n teithio . . . i barhau â'r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd - Barry John yn y 'Wales on Sunday'.
  • YnglÅ·n â'r celloedd Victoraidd, rwy'n credu y byddan nhw'n gryn atyniad - lle bydd Gorsaf Heddlu Ffynnon Taf yn cael ei hail godi.
  • Blwyddyn lawen yn llawn cyffro i argyhoeddi trwch pobl Cymru bod hon nid yn unig yn werth ei chadw ond yn drysor cenedlaethol i bawb yn ddiwahân - Alun Ffred Jones AC ynGorffennaf/Awst yn gweld yr angen am yr hyn mae'n ei galw yn "Blwyddyn Dathlu'r Gymraeg".
    "Oherwydd methiant trychinebus ein cwricwlwm, does gan fwyafrif pobl Cymru ddim clem am ein hanes, heb sôn am ein hiaith," ychwanegodd.
  • Beth am gynnull grŵp o ACau Cymraeg a fyddai'n ymrwymo i ddefnyddio'u priod iaith yn gyson yng ngweithgareddau'n Cynulliad Cenedlaethol? - her Llinos a Cynog Dafis i Aled Roberts AC mewn llythyr yn 'Golwg'.
  • Mae ein dyled iddo fel cymdeithas yn ddifesur - John Glyn Jones, Cadeirydd , yn cyhoeddi "tysteb" i Alan Llwyd sydd wedi ymddiswyddo fel Swyddog Golygyddol Barddas. Bydd y gronfa yn agored tan ddiwedd Medi.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.