Sibrydion Steddfod
Mae hi'n nos Sul yn troi at fore Llun ac mae'r sibrydion a'r dyfalu am y prif seremonïau yn hen fagu traed.
Yn y Goron mae'r diddordeb mawr ar y funud gydag un stori fach amhosib cael cadarnhad iddi y bydd y bardd buddugol yn gwrthod ei Goron oherwydd mai rhodd yw hi gan brif gyfrinfa talaith gogledd Cymru y Seiri Rhyddion.
"Os dyna'r bwriad, pam cystadlu yn y lle cyntaf?" holodd rhywun arall.
Wedi cael hynna o'r neilltu mae'r sibrydwyr yn symud ymlaen wedyn i ddarogan na fydd neb yn deilwng o'r Fedal Ryddiaith ddydd Mercher a'r beirniaid Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis heb eu plesio gan yr ymgeision ddaeth i law - gyda winc awgrymog fod Branwen Jarvis yn un o'r beirniaid yn Y Bala pan ataliwyd y Gadair ddwy flynedd yn ôl.
Wn i ddim beth fydd y sibrydwyr hyn yn ei ddweud pan ddigwydda nhw daro ar y rhai hynny sydd wedi cychwyn stori y bydd trebal yn cael ei sgorio yn Wrecsam eleni gyda'r un person yn ennill y Goron, Y Fedal Ryddiaith a'r Gadair gan wneud hon y Steddfod fwyaf hanesyddol mewn hanes yng nghyswllt y prif wobrau llenyddol.
Gyda Wrecsam yn clochdar yn barod am fod â dau fardd dwbwl, Syr T H Parry-Williams a Donald Evans, byddai trebal yn gychwyn da i gyfbnod newydd flwyddyn y canmlwydd a hanner.
Ar y funud dim ond dyfalu allwn ni - ac onid ydi hynny'n hwyl?
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.