´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhagor o siarad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:00, Dydd Gwener, 7 Hydref 2011

Nid arwydd fod pawb yng Nghymru wedi cau ei geg oedd absenoldeb dyfyniadau y ddau ddydd Gwener diwethaf - ond arwydd o'r ffaith nad oedd y blogiwr hwn yn gwrnado.

Ond yn awr yn ôl wedi seibiant dyma ddetholiad yr wythnos hon o sylwadau a wnaed yn ystod yr wythnos.

  • Yr oeddaf ti eisiau côt minc ac fe gefais ti un. Does yna ddim llawer yn Splot a all ddweud hynna - Mam Shirley Bassey yn y ddrama 'Shirley' ar ´óÏó´«Ã½2.
  • Daeth Duw yn fyw i mi drwy Iesu y dyn tlawd oedd yn dewis bod gyda pobl yr ymylon - Jeff Williams, pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru. Yn cael ei holi yn rhifyn Medi-Hydref y cylchgrawn 'Cristion' dywed hefyd mai caneuon Bob Dylan yn fwy na dim arall "wnaeth i fi gredu bod hi'n bosibl newid y byd".
  • Yr ydw i bob amser yn edrych ymlaen at fynd i ngwaith gan fy mod i'n gwybod y bydd gen i straeon gwych i'w dweud ar ôl mynd adref - Llew Davies o Ysgol Cae Top, Bangor, a ddewiswyd yn Athro'r Flwyddyn gwledydd Prydain.
  • Dydw i ddim yn ystyried fy hun yn secsi heb sôn am feddwl bod eraill yn meddwl hynny. Mae'n eithaf od fod dieithriaid yn meddwl hynny amdanoch - Kimberley Nixon o'r gyfres 'FreshMeat' a ddewiswyd yn ferch fwyaf rhywiol Cymru mewn rhestr o 50 gan y 'Western Mail'.
  • Mae angen ymchwiliad iawn i lwyddiant y dysgu [Cymraeg] yn enwedig faint o Gymraeg sy'n cael ei siarad ar ôl gadael yr ysgol - yr Arglwydd Morris o Aberafan yn .
  • Rwy'n casáu pan mae pobol yn cywiro fy Nghymraeg - Joshua Price, myfyriwr chweched dosbarth a fu'n actio Gavin yn y ddrama, 'Llwyth' yn cael ei holi yn 'Golwg'
  • .

  • Does dim rhaid siarad Cymraeg perffaith i fwynhau S4C - hysbyseb 'No speaky? Dim problem' .
  • Roeddwn i wedi laru ar bawb yn siarad Cymraeg yn y tÅ· a ddim yn gallu ymuno efo nhw, felly wnes i benderfynu dysgu'r iaith - Y gomediwraig, Isy Suttie o'r 'Peep Show', sy'n gariad i Elis James.
  • Yr ydw i'n gwir golli fy mam a nhad ond rwy'n gwybod y gwelaf i nhw. Yr ydw i'n gwneud hyn er eu mwyn nhw hefyd. Yr ydw i eisiau cael anrheg Nadolig da iddyn nhw - Sami Lee Brookes o'r Rhyl wedi iddi gael ail gyfle ar ôl cael ei gwrthod ar yr X Factor.
  • Yr ydw i wedi bod â diddordeb erioed mewn prydferthwch a ffasiwn ond bu'n rhaid imi ganolbwyntio ar fy ngradd BA mewn Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth - Tanya Mills 32 oed o Lanelwy a Bwlgaria, cynt. Glanhawraig yng Ngwersyll Pontins sydd wedi ennill ei lle yn rownd derfynol Mrs Galaxy.
  • . . . dylwn i gael gwared â llwyth o lyfrau na ddarllena i byth mohonyn nhw - gan gychwyn gyda'r sypyn nofelau Cymraeg lled ddiweddar a brynwyd mewn gobaith ond a daflwyd o'r neilltu mewn diflastod - Gwyn Llewelyn wrth drafod 'Hon yw fy Stafell i' yn rhifyn Hydref 2011 o .
  • Wythnos gyntaf ddiddorol iawn - Yr Athro Medwin Hughes, a gychwynnodd fel Is-Ganghellor newydd Prifysgol Cymru ddydd Llun.
  • Bydda i'n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn cryfhau'r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu - Meri Huws sydd wedi ei phenodi yn Gomisiynydd Iaith Cymru.
  • Ar ran holl staff ac aelodau Bwrdd yr Iaith Gymraeg, rwy'n dymuno'n dda iddi yn y dyfodol - Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, yn dilyn y cyhoeddiad am Meri Huws.
  • Yn fy meddwl i mae'r Cymry i gyd bron yn berfformwyr naturiol - Sally Burton, gweddw Richard Burton, yn ystod ymweliad â Phorth Talbot i gyd fynd â darlith goffa flynyddol Richard Burton.
  • Ni allem laesu dwyklo . . . nes bod pobl Cymru'n gallu derbyn eu holl wasanaethau trwy eu dewis iaith, boed hynny'n Gymraeg neu'n Saesneg. Mae dwyieithrwydd yn rhan annatod o Gymru gynaladwy - Gareth Chubb, pennaeth newydd Cyfeillion y Ddaear.
  • Mŵg a drychau - Disgrifiad Paul Davies AC, llefarydd yr wrthblaid ar faterion cyllidol yn y Cynulliad, yn ymateb i Gyllideb Jane Hutt AC.
  • Yr wyf yn dweud wrth Gynulliad Cymru fod gennym rai strategaethau euraidd yng Nghymru ond yr wyf yn cyfarfod bob dydd blant a phobl ifainc sy'n stryglo i gael eu clywed - Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.
  • Rhaid i ni wario o fewn ein hincwm ni. Mae'n glir bod angen i ni dorri'n ôl mewn rhai meysydd - Rhodri Talfan Davies, pennaeth y ´óÏó´«Ã½ yng Nghymru yn cyhoeddi toriadau.
  • Mae ysbryd yn y gwersyll yn uchel ac yr ydym eisiau eu dilyn [sef curo Montenegro a gêm dda yn Erbyn Lloegr] trwy ennill y ddwy gêm nesaf - Steve Morison yn edrych ymlaen at y gêm bêl-droed yn erbyn Y Swisdir heno.
  • Os gorffennwn ni'n drydydd mae'n mynd i fod yn wych gan roi 'chydig o hyder i bawb ein bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ond na fydded inni golli'n pennau gydag un fuddugoliaeth ac un perfformiad bioddhaol gan fod yna ffordd bell i fynd - Gary Speed, rheolwr tîm pêl-droed Cymru.


  • Rhain ydy'r dynion sy'n cario gobeithion y genedl - Simon Thomas, gohebydd y 'Western Mail' am y tîm rygbi a ddewiswyd i chwarae yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.
  • Mae'n un ai ennill neu fynd adref - Brian O'Driscoll, capten tîm rygbi Iwerddon.
  • Oes angen pump person i gyflwyno un gêm rygbi? - Cwestiwn ar Twitter.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.