大象传媒

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Llond hosan o dwrci a chelyn

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听

Glyn Evans | 16:15, Dydd Gwener, 23 Rhagfyr 2011

Gwahoddiad i roi eich troed mewn hosan llawn twrci a chelyn. Yn naturiol mae tipyn o flas y Dolig ar ein pwdin o ddyfyniadau yr wythnos hon.

Mae鈥檔 gyfle hefyd i ddymuno Nadolig Llawen a bendithyr 糯yl ichi gyd.

A鈥檙 gwahoddiad arferoli chi ychwanegu at y dewis o ddyfyniadau . . .

  • Nac ofnwch; canys wele yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i鈥檙 holl bobl. Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd yr hwn yw Crist yr Arglwydd . . . Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a鈥檌 ddodi yn y preseb 鈥 Neges yr angel i鈥檙 bugeiliaid yn 么l Luc 2:10.

  • Peidiwch a phanicio 鈥 y Parchedig Harri Parri yn 鈥楶apur Dre鈥 yn cofio geiriau鈥檙 Angel mewn perfformiad o ddrama鈥檙 geni yng Nghaernarfon.

  • Pe byddai鈥檙 tri g诺r doeth wedi bod yn ferched fe fydden nhw wedi stopio i ofyn y ffordd a chyrraedd mewn pryd i helpu gyda genedigaeth y Baban Iesu a chlirio鈥檌 fyny wedyn; gwneudcaserol a rhoi anrhegion buddiol i Fair 鈥 Y 鈥榃estern Mail鈥 ddydd Llun yn dyfynnu neges destun a dderbyniwyd gan Radio 2.

  • Bachgen barus yn gwneud twll yng ngwaelod ei hosan gan feddwl twyllo Si么n Corn. Be gafodd o yn ei hosan? P芒r o sanau newydd! 鈥 Twm Morys yn ailadrodd stori dymhorol gan 鈥楥remlyn鈥 ei golofn farddol yn
  • Yn yr Eidal mae plant yn rhoi eu hesgidiau'n barod i dderbyn anrhegion dros y Nadolig ond os ydyn wedi bod yn ddrwg yna cerrig a lludw sydd yn cael eu gadael - Vanessa Baldry o Europe Direct sy鈥檔 gofalu am goeden Nadolig ryngwladol听yn Llangollen y cymerodd plant o 196 o ysgolion yn 19 o wledydd Ewrop ran yn ei haddurno.
  • Testun cywilydd heb os. Mae鈥檙 syniad o deimlo siom wrth dderbyn rhodd yn beth ffiaidd. Ond dylwn gyfaddef bod derbyn meicrosgop, a finne鈥檔 wyddonydd di-glem ac anobeithiol, wedi fy siomi鈥檔 arw. Gobeithio na ddangosais fy nheimladau 鈥 Huw Edwards, ar ddalennau cydenwadol y papurau crefyddol, yn cofio鈥檙 anrheg Nadolig 芒鈥檌 siomodd fwyaf.

  • Fy hoff gymeriad yn stori鈥檙 Geni ydi Herod 鈥 mae鈥檔 fy ngorfodi i edrych arnaf fy hun a gweld cymaint o鈥檙 Herod yn ei holl agweddau sydd ynof i 鈥 Y Parchedig Iwan Llewelyn Jones, Porthmadog,ar yr un dalennau yn dewisei hoff gymeriad, ar wah芒n i鈥檙 Iesu yn stori鈥檙 Geni.

  • Byddai 42% o ferched a 23% o ddynion a oedd yn dyheu am gael bod yn Fair a Joseff yn nrama鈥檙 geni erbyn hyn yn dewis bod yn Herod 鈥 鈥Y Goleuad鈥 yn dyfynnu canlyniad arolwg gan Christian Research.

  • Mae鈥檔 gwneud i rywun deimlo鈥檔 gynnes tu mewn 鈥 Dafydd Du yn dweud wrth 鈥楪辞濒飞驳鈥 gymaint mae鈥檔 mwynhau darlledu ar fore Nadolig. 鈥淢ae lot o bobol ddim efo鈥檜 teuluoedd fore dydd Nadolig. Maen nhw鈥檔 licio rhoi cyfarchion iddyn nhw dros y radio, hyd yn oed teulusydd yn byw i ffwrdd o Gymru ac efallai鈥檔 gwrando ar y we neu beth bynnag,鈥 meddai.

  • Dwi byth yn si诺r a ddylwn i ddymuno Nadolig tangnefeddus i bobl oherwydd dyw e byth bron iawn yn troi mas felly. Ond fe allai ddymuno llawenydd i bawb yng nghanol y llanast, a phob bendith gan Dduw y pethau bychain, cyffredin a rhyfeddol 鈥 Archesgob Caergaint, Y Gwir Barchedig Rowan Williams, yn ei neges Nadolig.

  • Mae'r pethau y gofynnir i chi a'ch teuluoedd eu gwneud yn unigryw, a natur eich swydd yn wahanol i unrhyw fath arall o waith. Mae pob un ohonoch yn gorfod gwneud rhywfaint o aberth bersonol bob dydd 鈥 Neges Nadolig Carwyn听Jones i鈥檙 lluoedd arfog.

  • Mae鈥檔 llawer gwell gen i fod yn feddyliwr rhydd ac yn gerdyn y gellir ei ddefnyddio i gryn effaith 鈥 Lembit Opik yn hapus mai fel y Jocar mae o鈥檔 ymddangos mewn pac o gardiau chwarae gwleidyddol newydd lle mae Rosemary Butler yn frenhines y calonnau, Lloyd-George yn bedwar diemwnt, Neil Kinnock yn bedair calon a James Callaghan yn naw calon.

  • Cefais sioc aruthrol 鈥 Mark Hobbs o Abertawe yn darganfod cerdyn Nadolig cant oed.

  • Roedd yna gefnfor rhwng yr Alban a Chymru ac roedd Cymru yn bellach i'r de nad yw heddiw - Dr Lucy Muir yn trafod darganfodffosiliau 460 miliwn o flynyddoedd oed mewn chwarel ym Mhowys.听

  • Nid yw Kate y lesbiad yn gydnaws ychwaith a鈥檙 Kate Roberts yr oedd nifer ohonom yn ei hadnabod. Ein profiad ni ywbod Kate wrth ei bodd yng nghwmni dynion ifanc 鈥 Vaughan Hughes yn Barn mis Rhagfyr / Ionawr yn ymateb i ddyfaliad cofiant Alan Llwyd bod Kate Roberts yn hoyw gan ychwanegu 鈥渂od yn well o lawer gan Kate Roberts gwmni dynion na chwmni merched鈥 ac iddi 鈥測mddwyn yn dra annymunol tuag at ferched鈥.

  • Roedd o鈥檔 obsessed efo Cynan, a鈥檙 mwyaf o beints roedd o鈥檔 eu cael y mwyaf roedd o鈥檔 gofio o鈥檌 gerddi fo. Roeddan nhw鈥檔 llifo allan ohono fo 鈥 Tara Bethan, yn 鈥楪辞濒飞驳鈥yn cofio鈥檌 thad, Orig Williams.

  • Efallai byddai'n rhaid cyfaddawdu ac aros mewn un lle pob yn ail flwyddyn . . . ac un posibilrwydd yw . . . Llanelwedd, achos yno mae'r Sioe Frenhinol, a'r Maes a'r holl gyfleusterau 鈥 Yr Athro Gerald Holtham yn ymateb i鈥檙 golled o 拢90,000 a wnaeth Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

  • Y mae pob iaith yn agor drysau. Mae鈥檙 Gymraeg yn agor calonnau hefyd 鈥 Gareth Williams o Florida yr Unol Daleithiau, arweinydd Cyfeillion Cymru o Dramor yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni yn cael ei ddyfynnuyn rhifyn yr hydref o 鈥榊r Enfys鈥.

  • 鈥楥yfrifiadur鈥, achos doeddwn i ddim yn gallu ei ddweud pan oeddwn i鈥檔 dysgu! Dwi鈥檔 hoffi 鈥楢rdderchog鈥 hefyd - Aixa Orive, yn dewis ei hoff air yn rhifyn Rhagfyr o 鈥楥lecs Camwy鈥, papur bro Dyffryn Camwy ym Mhatagonia.

  • Da iawn Cymru. Gobeithio y bydd yr Alban a Lloegr yn dilyn yn fuan er mwyn achub mwy o fywydau 鈥 Richard Branson yn cael ei ddyfynnu yn 鈥榊 Cymro鈥 yn canmol cynlluniau Llywodraeth Cymru yngl欧n a rhoi organau.

  • Jonsi yn cyflwyno y goreuon o raglenni 鈥楥nex鈥 ar S4C . . . Jonsi ar ei orau, mor hyderus ac mor secsi. Presant Dolig gwerth chweil 鈥 Morwena Williams, Pentraeth, mewn llythyr yn 鈥榊 Cymro鈥.

  • Fyswn i鈥檔 ffantastig, fyswn i鈥檔 gallu bod yn ddistaw, os fyswn i鈥檔 siarad efo pobol ddiddrol 鈥 Eleanor Burnham y cyn AC yn dweud wrth 鈥楪辞濒飞驳鈥 pam y byddai hi鈥檔 berffaith fel cadeirydd 鈥榗hat show鈥 ar y radio neu鈥檙 teledu. Ac ydi, mae hi yn chwilio am waith!

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.