大象传媒

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Dyfyniadau difyr

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 13:00, Dydd Gwener, 3 Chwefror 2012

Y detholiad wythnosol arferol o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnos.

A gwahoddiad, fel arfer, i chi ychwanegu atyn nhw neu ymateb iddyn nhw . . .

  • Dyw鈥檙 hyn oedd yn mynd drwy ei feddwl ddim yn eglur 鈥 Y Crwner Nicholas Rheinberg yng nghwest Gary Speed.听听听

  • Oerach na gwlad yr I芒 鈥 Sawl stori a bwletin newyddion yn ystod yr wythnos gyda rhai wedi mynd cyn belled a Phegwn y De i chwilio am gymhariaeth.

  • Gallai adnabod un nodwedd ar Gymru 2012 a fyddai鈥檔 gyfarwydd iawn i ymwelydd o Oes Victoria. Honno yw鈥檙 bri a osodir unwaith eto . . .arlwyddiant personol Cymry unigol yn y byd Seisnig 鈥 Dafydd Glyn Jones yn yn dychmygu Emrys ap Iwan yn ymweld 芒 Chymru heddiw.

  • Teimlo ydan ni nad ydan ni yn cael gwerth am yr arian sy'n mynd i'r mudiad yn Lloegr a hefyd yn teimlo nad ydan ni'n cael y gwasanaeth gorau yn y Gymraeg o Loegr - Iwan Meirion, is-gadeirydd Cangen Meirionnydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn arwain ymgyrch 鈥榓nnibyniaeth鈥 i'r sir.听听

  • Oherwydd problemau technegol 鈥 diffyg cyflenwad trydan yn Nhrefan a Llanystumdwy a batri鈥檙 gliniadur yn fflat 鈥 nid oes coofn gynganeddol yr wythnos hon. Bydd Twm yn dychwelyd yr wythnos nesaf 鈥 Siom i ddilynwyrcolofn farddol Twm Morys yn 鈥榊 Cymro鈥 yr wythnos hon.

  • Mae Cymraeg lot o bobl yn rhydlyd ar 么l yr ysgol ac maen nhw eisiau ailgydio yn yr iaith 鈥 Marc Jones, cadeirydd canolfan Gymraeg newydd Saith Seren yn Wrecsam.听听听

  • Mae Loegr yn bencampwyr byd ar wastraffu talent 鈥 Graham Henry yn rhoi ei farn am d卯m rygbi Lloegr ar therugbysite.com ar drothwy鈥檙 Chwe Gwlad.

  • Mae deugain y cant o ddisgyblion yn cyrraedd ysgol uwchradd gydag oed darllen sydd fwy na chwe mis yn is na鈥檜 hoed go iawn 鈥 Ann Keane, prif arolygydd ysgolion Estyn.听听听

  • Diolch am eich negeseuon caredig a鈥檆h pryderon. Dydw i ddim wedi eich gadael chi . . . dim ond cymryd rhywfaint o amser ond rwy鈥檔 addo bod yn 么l cyn bo hir 鈥 Katherine Jenkins yn trydar am y tro cyntaf ers iddi hi a Gethin Jones wahanu.

  • Yn wir i Dduw dydw i erioed wedi cyfarfod pobl neisiach 鈥 Paddy Doherty - a ddaeth i amlygrwydd yn sgil鈥楤ig Brother鈥 a 鈥楳y Big Fat Gypsy Wedding 鈥 wrth ei fodd gyda鈥檙 croeso a dderbyniodd yn lleol yn awr ei fod yn byw yn Sealan Sir Y Fflint.

  • Ma tua鈥檙 un rhinwedd mewn cael trafodaeth wleidyddol ar Twitter ag sydd yna o sgwennu maniffesto gwleidyddol ar ffurf englyn 鈥 Lefi Gruffudd yng nghylchgrawn y 鈥榃estern Mail鈥 ddydd Sadwrn.

  • Mae angen i ni yng Nghymru fod y gorau y gallwn ni fod, yn hytrach na thrio arddel gwerthoedd a diwylliannau gwledydd eraill 鈥 Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yn rhannu ei weledigaeth gyda Karen Owen yn 鈥榊 Cymro鈥.Dywedodd hefyd bod 鈥渨asanaethu鈥檙 cyhoedd鈥 yn golygu 鈥渁ddysgu, gwefreiddio, cyffroi ac ennyn ymateb o bob math鈥.

  • Mae'n edrych braidd yn druenus ar hyn o bryd - Ashley Gardner sy鈥檔 ymgyrchu i adnewyddu hen long y Duke of Lancaster sydd yn rhydu ar y lan ger Mostyn, Sir Y Ffint.听

  • Dwi鈥檔 cofio ymaelodi a chael bathodyn triongl a rhif aelodaeth dau ddeg rwbeth . . . Roedd y bathodyn gen i nes yn ddiweddar iawn, ond fedrai ddim ei ffeindio erbyn hyn 鈥 Mena Jones o Borthmadog yn cofio yn 鈥榊 Cymro鈥 ymaelodi a鈥檙 芒鈥檙 Urdd yn 1922.

  • Y mae ganddo鈥檙 galon fwyaf o bawb yr ydw i yn ei adnabod 鈥 Hal Luscombe am brop y Scarlets, Rhys Thomas, sydd newydd gael triniaeth feddygol i鈥檞 galon.
  • Mae鈥檙 teitl eleni ar gael i unrhyw un ond ni allaf i weld unrhyw d卯m yn ennill pump allan o bump 鈥 Barry John yn y 鈥榃ales on Sunday鈥 ar drothwy gemau鈥檙 Chwe Gwlad. Mae鈥檔 rhagdybio hefyd mai Leigh Halfpenny fydd yn sbarduno t卯m Cymru yn y modd yr arferai Shane Williams wneud.听听

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.