大象传媒

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Cofio Heddychwr

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 14:27, Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2012

Y mae hi eleni yn ddau ganmlwyddiant geni Henry Richard -听驳诺谤 o Dregaron oedd yn cael ei adnabod fel "yr Apostol Heddwch".

Bosib mai chydig sy'n gwybod am ei gyfraniad erbyn heddiw ond yr oedd yn Gymro o bwys a da gweld bod llyfr amdano yn cael ei gyhoedd gan Gwyn Griffiths.

鈥淗enry Richard,鈥 meddai Gwyn, 鈥渙edd Cymro enwocaf ei ddydd - ond bron nad aeth ei enw鈥檔 angof.鈥

Mae hynny鈥檔 syndod o gofio pa mor gyfoes听 a pherthnasol i heddiw oedd ei ar bwnc heddwch a rhyfel a鈥檌 safbwynt hefyd ar Gymru a鈥檙 Gymraeg.

Yn ei ddydd ymysododd yn chwyrn ar Y Llyfrau Gleision a鈥檜 brad ac yn ei听 Essays and Letters of Wales (1866) ymr么dd i addysgu鈥檙 Saeson amdanom ac yn sgil听 hynny ennyn balchder a hyder y Cymry ynddynt eu hunain.听

鈥淵n 么l yr Archesgob A G Williams ni fu gan un arweinydd gwleidyddol yng Nghymru erioed y fath ddylanwad dwfn a diwrthwynebiad ymysg Anghydffurfwyr,鈥 meddai Gwyn.听
鈥淐yn ei ethol ef yn AS dros Ferthyr ac Aberd芒r ym 1868, carfan ddiwerth fu aelodau seneddol Cymru ond trawsnewidiodd Henry Richard y cyfan.听 Gwyntyllwyd materion Cymreig am y tro cyntaf mewn cof ar lawr T欧鈥檙 Cyffredin,鈥 meddai.

Yr oedd ei heddychiaeth a鈥檌 Gymreictod ymhleth neu鈥檔 ddwy ochr o鈥檙 un geiniog. Yn 么l Gwyn, 鈥淏od yn Gymro a鈥檌 dysgodd i gas谩u natur ryfelgar y Saeson.鈥
Ond daeth hefyd dan ddylanwad heddychwyr radicalaidd o Loegr hefyd听 fel gweinidog Capel Cynulleidfaol Seisnig Marlborough yn yr Old Kent Road.听
听听听听
Er a chust arweinwyr rhyngwladol dysgodd hefyd nad digon apelio鈥檔 uniongyrchol at arweinwyr y cenhedloedd heb ymgyrchu hefyd听 i lunio barn gyhoeddus i ddwyn pwysau ar Lywodraethau.听
Pan yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Heddwch trefnodd听 gyda鈥檙 Americanwr Elihu Burritt听 gyfres o gynadleddau heddwch ar gyfandir Ewrop - ym Mrwsel, ym Mharis ac yn Frankfurt lle鈥檙 aeth 500 o Brydain yn unig, yn eu plith Samuel Roberts (SR Llanbrynmair) a sgrifennodd am gyfraniad Henry Richard yn Y Cronicl, 鈥淏yddai yn hoff gennym iddo gael drws agored drwy ryw ran o Gymru i sefyll a lleisio yn y Senedd o blaid Heddwch.鈥

Ym 1850 ymddiswyddodd o鈥檙 weinidogaeth gan gyhoeddi fod dadlau achos 鈥渢angnefedd ar y ddaear鈥 cyn bwysiced 芒 phregethu am Dywysog Tangnefedd ar y Sul.

Er gwaethaf holl jingoistiaeth y cyfnod听 taranosdd yn erbyn Rhyfel y Crimea a phob rhyfel arall a dadleuodd yn llwyddiannus听 mewn cynhadledd ym Mharis yn 1856 dros gynnwys听 yn y cytundeb heddwch gymal yn galw am greu trefniant cyflafareddu rhwng cenhedloedd.

鈥淵r oedd yn ddatganiad o anghymeradwyaeth o ryfel a osododd gynsail pwysig yn arbennig i sefydlu Tribiwnlys yr H芒g ym 1899,鈥 meddai Gwyn.

Ym 1873 llwyddodd, er gwaethaf gwrthwynebiad y Prif Weinidog Gladstone i gael T欧鈥檙 Cyffredin i gymeradwyo cynnig: 鈥淔od Anerchiad gystyngedig i鈥檞 gyflwyno i鈥檞 Mawrhydi yn erfyn arni orchymyn i鈥檙 Ysgrifennydd Cartref ymgynghori 芒鈥檙 Galluoedd Tramor gyda鈥檙 amcan o gyflwyno gwelliannau pellach i鈥檙 gyfraith ryngwladol a sefydlu cyfundrefn Gyflafareddu barhaol.鈥

鈥 Achosodd y llwyddiant annisgwyl hwn, ac araith rymus Richard听 yn Nh欧鈥檙 Cyffredin, gynnwrf mawr ar gyfandir Ewrop,鈥 meddai Gwyn.听

听Tra鈥檔 cydnabod na fu heb ei fethiannau dengys y llyfr y bu llwyddiannau hefyd.听
Wythnosau cyn ei farw ym 1888, cadeiriodd gyfarfod i lunio Siartr Prifysgol Cymru.听 Bu鈥檔 allweddol yn sefydlu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.听 Bu鈥檔 aelod o鈥檙 Comisiwn Brenhinol i Baratoi Adroddiad ar Gyflwr Addysg yng Nghymru a Lloegr (1888) a phe buasai鈥檙 Arolygwyr a鈥檙 ysgolion wedi manteisio ar Ddeddfwriaethau鈥檙 Weinyddiaeth Addysg a ddaeth yn sg卯l y Comisiwn hwnnw buasai鈥檙 Gymraeg mewn cyflwr llawer cryfach heddiw.

Yr adnod听 Gymraeg sydd ar ei gofeb ym mynwent Abney Park yn Llundain yw:听

鈥淐anys yr oedd yn fawr gan ei genedl, ac yn gymeradwy ym mysg lluaws ei frodyr, yn ceisio daioni i鈥檞 bobl, ac yn dywedyd am heddwch i鈥檞 holl diriogaeth.鈥

  • 听Cyhoeddir Henry Richard 鈥 Apostle of Peace and Welsh Patriot gan , Llundain.听 拢14.99.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.