Rhun ap Iorwerth: Braf a bwrw bob yn ail ar y trydydd dydd
Dydd Sul. Diwrnod 3. Ie, 3. Yn barod.
Mae'n braf. Mae'n bwrw. Am yn ail. A weithiau yr un pryd. Ond dwi ddim yn cwyno - mae eisiau amrywiaeth yn yr Eisteddfod, a pham eithrio'r tywydd o hynny!
Mae hwn yn faes mawr, ac mi fydd yn ganol yr wythnos erbyn i mi gael cyfle i ymweld â phob rhan ohono, ond mae digon wedi dal fy sylw'n barod.
Arwydd o'r oes yn gyntaf - cyfrwch bolion y Pafiliwn. Chwech eleni, nid wyth. Mae'r pafiliwn 25% yn llai. Arbed costau yw'r rheswm dwi'n siwr, ond mi fyddai'n drueni gweld y Paf yn colli ei statws mawreddog ymhellach.
Yn y Lle Celf, mae'r 'traeth' polisteirin yn drawiadol tu hwnt. Fe sefais yn syllu ato am sbel cyn sylwi nad cerrig go iawn oedd o fy mlaen fel taen nhw'n diflannu'n bell i orwel y babell.
Mae'r bar wedi ei godi, fel petae, o ran safon y bwyd ar y maes. Dau ginio hyd yma. Dau fyrgyr gourmet gwahanol, a dwi'n hapus. Mae 'na gynnyrch safonol yma - a hwnnw'n gynnyrch lleol. Da iawn, Eisteddfod.
Ac mae sioe Cyw mor boblogaidd ag erioed. Y plant yn chwerthin lond eu boliau wrth wylio Huw Stomp. Digwydd cerdded heibio oeddwn i, gyda llaw. Doedd gen i ddim tocyn i fynd mewn, ac mae'n debyg fy mod yn rhy hen beth bynnag.
Gyda llaw, mi ysgrifennais ar y dechrau mai dyma drydydd diwrnod yr Eisteddfod. Pam mai dyddiadau 'swyddogol' yr Eisteddfod yw Awst 4-11? Sadwrn i Sadwrn? Roedd y seremoni agoriadol a chyngerdd agoriadol ar y nos Wener. Y pafiliwn dan ei sang, ond ddim yn swyddogol yn rhan o'r Eisteddfod ei hun? D'wedwch hynny wrth y plant lleol oedd yn cymryd rhan!
Ie, yn fy ngolwg bersonol i, beth bynnag - dydd Sul, diwrnod TRI. Ar y mesur hwnnw rydan ni draean o'r ffordd drwodd yn barod.