Cofio'r enigma, Dic Aberdaron
Mae Bryn Fôn wedi canu amdano, Jan Morris wedi sgwennu amdano a T H Parry Williams ac R S Thomas wedi barddoni amdano. Ac er bod dros 200 mlynedd wedi pasio ers geni'r ieithgi ecsentric a'r carwr cathod, Dic Aberdaron, mae ei enw yn dal i fod yn un cyfarwydd i Gymry heddiw.
Dic Aberdaron (Richard Robert Jones) (1780-1843), gan William Roos, c.1850, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Bu farw ar Ragfyr 18 1843 yn 63 oed ac mae wedi ei anfarwoli hyd heddiw mewn cân, celf a chof llawr gwlad. Yr enghraifft ddiweddaraf o'r anfarwoli hwn ydy'r paentiad olew ohono sydd ymysg y lluniau sydd bellach i'w gweld ar wefan Your Paintings y ´óÏó´«Ã½ sydd newydd gwblhau ei tharged uchelgeisiol o gasglu holl baentiadau olew gwledydd Prydain sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus. Am y tro cyntaf, maen nhw i gyd i'w gweld ar y we.
Mae'n brosiect ar y cyd rhwng y ´óÏó´«Ã½ a'r Public Catalogue Foundation (PCF).
Mae 211,861 o ddarluniau bellach ar y wefan - 12,500 ohonyn nhw o Gymru gan gynnwys gwaith Claudia Williams, Donald McIntyre, Kyffin Williams, Tunnicliffe, Edward Povey, Shani Rhys-James ac Augustus John, i enwi dim ond rhai.
Daw paentiad Dic Aberdaron o gasgliad yr arlunydd William Roos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: gallwch weld mwy o'r casgliad, sy'n cynnwys portreadau o Twm o'r Nant a Christmas Evans, ar wefan Your Paintings.
Yn ôl yr hanes, dysgodd Dic Aberdaron Ladin yn 12 oed a nifer o ieithoedd eraill wedi hynny.
Rhoddodd heibio gyfle i ennill bywoliaeth ar y môr, fel ei dad a oedd yn saer llongau yn Aberdaron, a threuliodd weddill ei oes yn crwydro Cymru a thu hwnt gyda'i lyfrau a'i gath yn byw ar gardod ac yn astudio ei lyfrau a chyfieithu.
Roedd yn gymeriad adnabyddus iawn yn ei ddydd a bu'n lwcus iawn o haelioni noddwyr a roddai loches ac arian iddo o bryd i'w gilydd er mwyn hyrwyddo'i astudiaethau. Ysgrifennodd eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ond ni chafodd ei gyhoeddi erioed.
Awgrymodd Jan Morris, a ysgrifennodd amdano yn ei llyfr The Matters of Wales, mai darganfod ei allu i ddysgu ieithoedd oedd ei ddiwedd gan iddo droi ei gefn ar waith a bywyd confensiynol a dod yn drempyn am weddill ei oes er mwyn dilyn ei ddiléit mewn llyfrau.
Ar ei fedd ym mynwent y plwyf yn Llanelwy, lle bu farw, mae'r englyn yma gan Ellis Owen:
Ieithydd uwch ieithwyr wythwaith, - gwir ydoedd,
Geiriadur pob talaith:
Aeth Angau â'i bymthengiaith;
Obry'n awr mae heb r'un iaith.
Ysgrifenodd TH Parry Williams amdano yn bur ddirmygus yn ei Rigymau sy'n cynnwys y llinell 'Nid yw pawb yn gwirioni'r un fath' tra rhoddodd RS Thomas ddarlun mwy ystyriol a dwys ohono sy'n ceisio ateb y cwestiwn, pwy yn union oedd Dic Aberdaron?
Trempyn llengar, athrylith aeth ar gyfeiliorn, diniweityn cyfrwys, sgamiwr, polyglot eangfrydig oedd o flaen ei oes, neu berson cyffredin â gallu hynod?
Pwy a ŵyr?
Mae mwy o luniau ohono a gwrthrychau eraill i'w gweld yng ond er y dystiolaeth weledol a hanesyddol, mae Dic Aberdaron yn parhau'n enigma hyd heddiw.