Lluniau Llanelwedd
Efallai y dyliwn i ei galw'n Ffair Aeafol Llanelwedd. Yn y bore bach roedd hi'n 7 gradd o dan y pwynt rhewi. Ond wrth lwc yng nghanol y gwair cynnes yn sied y gwartheg y g'nes i gyfarfod Catrin Edwards, fferm Penbryn, ger Llanrwst, merch ifanc -yn wahanol i'w brodyr - sydd wedi gwirioni ar ffermio. Fe fuon ni'n sgwrsio efo'n gilydd ar raglen Eleri a Daf, ac yn hytrach na dewis Can cyn Cychwyn, roedd o'n fwy addas iddi hi ddewis Can cyn Carthu - Frisbee a Heyla.
Yn y babell grefftau, tu ol i fwrdd oedd yn gwegian o dan bwysau llechi Stiniog, fe ddois i ar draws Alan. Hogyn o Loegr yn wreiddiol ond yn gall iawn, fe ddaeth i Gymru a chael hyd i wraig sydd efo fo rwan yn y busnes o greu crefftwaith amrywiol allan o lechi Blaenau Ffestiniog. A bellach mae Alan yn cytuno efo'r Tebot Piws, mai Stiniog yw ei "seithfed ne'"
Fi yng nghwmni un o'r landed gentry! Richard Rees, wrth gwrs, "best of breed" heb os, ac yn dal i lenwi'r Sosban efo cerddoriaeth wych bob bore Sadwrn ar Radio Cymru.
'Dwi ddim yn sicr pa mor dal ydi "tall". Mae'n siwr fod chwe troedfedd a thair modfedd yn nhraed eich sannau yn ddigon agos!
Do, fe welsoch chi Catrin yn gynharach, ond dyma hi efo'r anifail a enillodd y wobr gyntaf i Catrin- croesiad o Belgian Blue a Limousine. A finna' wedi meddwl erioed mai car hir du oedd Limousine!!
Cystadlu am y tro cyntaf, ac ennill am y tro cyntaf yn adran y moch. Dyna hanes Liz Shankland sy'n cadw tyddyn yn ymyl Merthyr Tydfil. Ac wrth gwrs roedd yn rhaid i'r mochyn o Fon gael ei lun efo'r enillydd.