Tadcu yn Cerdded y Clawdd
Yng Nghas-gwent y ces i fy mrecwast bore 'ma, yng nghwmni Arwyn Davies, cyn ffarmwr o ardal Bethlehem, sy'n mynd i gerdded Clawdd Offa er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr prin iawn y mae ei ŵyr Ifan a'i wyres Awen, yn dioddef ohono. Fe fydd y sgwrs ges i efo Arwyn ar raglen Nia ar Radio Cymru fore Mercher, ac fe fydd hi'n cael mwy o wybodaeth am y cyflwr P.K.U. gan feddyg teulu, Harri Pritchard.
'Dwi'n cofio taith gerdded y bues i arni yn y gorffennol o Dde Cymru i'r Gogledd yng nghwmni'r comedïwr Gari Williams, a'r siaradwr brwdfrydig, Sulwyn Thomas, er mwyn rhoi sylw i'r Urdd. Tu allan i Gaerfyrddin mae 'na allt, hir a blinderus, o'r enw Allt Walis, ac fe ofynnodd Gar i Sulwyn a finnau, pan oeddem ni'n dau ar ein gliniau allan o wynt ac yn goch fel dau domato.
"Ydach chi'n gwbod, pam maen nhw'n galw'r allt yma yn allt Walis?" 'Doedden ni ddim.
"Achos mai dim ond tri wally fel ni fasa'n meddwl ei cherdded hi!"
Mae Arwyn Davies, yn aelod o Bois y Castell, ac fe fyddan nhw yn ymuno ag o
am ran o'r daith, ac yn canu ei glodydd 'dwi'n siŵr.