Dyma ni yn mynd i Sempringham........
Deg o'r gloch ar fore Gwener braf, ac mi oeddwn i'n aros am y bws, fi ac Elizabeth Gilpin, o'r Rhos. Yn brydlon am ddeg, gyda Hubert Griffiths tu ôl i'r llyw, fe gyrhaeddodd y bws, yn cario mwy o bererinion, o Hendy Gwyn ar Dâf - Roy a Rhoswen Llywelyn, aelodau o Gymdeithas y Dywysoges Gwenllian, ar eu ffordd i Semprinham, lle carcharwyd Gwenllian, unig blentyn Llywelyn, ein Llyw Olaf, am 54 o flynyddoedd, dan orchymyn Brenin Edward 1af.
Ar y bus i fusnesu yr oeddwn i. Lle mae Sempringham oedd y cwestiwn cyntaf?
A'r ateb ges i "Ddim yn bell o Grantham, cartref Magaret Thatcher, yn swydd Lincoln. 'Roeddwn i hefyd am wybod, pwy oedd aelodau'r Gymdeithas, pam oedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn rhywbeth ddigwyddodd bron i saith canrif yn ol. Fe gewch chi'r atebion ar raglen yn adrodd hanes y daith,fydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Y deinamo sy'n gyrru'r Gymdeithas ydi Mallt Anderson, a hi osododd y dorch wrth y gofeb, gynlluniwyd gan Ieuan Rees. Cofeb sydd yn edrych yn syndod o debyg medd rhai i leian yn gwisgo clogyn llwyd hir.
Ar ol clywed am hanes y Dywysoges Gwenllian fe ysbrydolwyd y prifardd Mererid Hopwood i 'sgwennu'r geiriau hyn:
Doli glwt ein cenedl glaf
oet ein harwr tyneraf
ein baban gwan, ein mam gaeth,
yn ifanc, dy hynafiaeth,
Ac atat ti, Gwenllian
y down o'th wlad, eneth lan,
dod eto i'r gwastatir
heddi i fan dy ddioddef hir.