Mynwent y morwyr
Ia! Dyna le 'roeddwn i ddydd Iau rhyw dair milltir o Langrannog ym mynwent capel y Wîg, ac yng nghwmni John Meirion Jones, cofiannydd swyddogol Bois y Cilie.
Fe fydd sgwrs John Meirion am y morwyr sydd wedi eu claddu yma i'w chlywed ar raglen Nia yr wythnos nesa'.
Ar hyn o bryd mae John wrthi'n paratoi llyfr am fywyd a bro , ac fe ddangosodd y bedd i mi gydag englyn Dic Jones yn coffau ei gyfraniad aruthrol i'n llenyddiaeth ni.
SylwadauAnfon sylw
Mae llyfrau plant y Jones wedi bod cynorthwyol 'da fy astudiaethau o'r iaith Cymraeg.