Y sioe fach, fawr
Fe sefydlwyd Sioe Dinbych a Fflint 147 o flynyddoedd yn ôl ac mae hi wedi tyfu a thyfu.
Yn wir mae popeth yn fawr yno - yn enwedig y tractorau.
Ac yng nghysgod John Deere, yr anghenfil gwyrdd a melyn, y ces i'r pleser o gyfarfod Mr Glyn Jones.
Geraint Lloyd oedd wedi gofyn i mi fynd yno gan i fod o wedi gwirioni ar hen dractorau. Mae ganddo ddau ar hyn o bryd yn ei sied.
Ac o'r Hydref ymlaen fe fydd Geraint a finnau'n crwydro Cymru ac yn agor drysau siediau'r genedl i weld beth sy'n cuddio yn y corneli tywyll..
Os hoffech chi i ni ddwad draw acw cysylltwch efo fi drwy ebostio hywel@bbc.co.uk