Hwyl yn siop Hefina
Mae siop Hefina ar y sgwâr ym Mhwllheli, ac mae hi'n dathlu ei phen-blwydd yn bump ar hugain oed eleni.
Mae 'na ddwy ran i'r siop. Yn y tu blaen mae Glen tu ôl i'r cowntar yn gwerthu defnydd ac edafedd, ac yn y cefn mae'r bos ei hun wrthi'n brysur yn ymestyn trowsusau, yn cwtogi sgertia - yn 'altro' dillad, fel byddwn ni'n deud yn y Gog.
Fe alwodd Glyn heibio'r siop tra roeddwn i yno i neud yn siŵr fod peiriant gwnio Hefina yn gwneud ei gwaith yn iawn - a phen-blwydd hapus i Glyn hefyd, sydd wedi bod yn gwasanaethu peiriannau gwnio'r Gogledd ers hanner can mlynedd. Mae 'na stori yn dŵad i'r cof, am y pregethwr hwnnw, oedd yn pregethu yn yr hen steil ac yn annerch ei gynulleidfa o'r pulpud.
"Gyfeillion. Mae canu yn ein gwneud ni'n hapus. Mae'n bwysig i ni ganu'n ddyddiol, beth bynnag fo'n sefyllfa ni. Fe glywais i am y teulu bach tlawd yma, yn byw gyda'i gilydd mewn un stafell oer. Ond er hynny roedd gwr y tŷ yn canu a gwraig y tŷ yn canu, ac yn wir i chi roedd y forwyn fach wrth y bwrdd, ymhell oddi wrth wres y tan, yn gweithio'n dawel ac yn canu i sŵn yr injan wnio. A wyddoch chi be' gyfeillion? The machine was also a Singer!"
Diolch am y croeso Hefina a phenblwydd hapus a hir oes i'r siop.