Tu ol i ddrysau'r shed
'Da chi'n cofio'r gyfres deledu Bonanza flynyddoedd maith yn ol. Cyfres am gowbois yn byw ar ranch o'r enw Ponderosa. Fe ges i f'atgoffa o'r gyfres pan alwais i heibio Geraint Lloyd y diwrnod o'r blaen, yn ei gartre yn Lledrod. Ond nid yno 'roeddwn i, i gael fy nhywys o gwmpas y stad, ond yn hytrach i fusnesu tu ol i ddrysau ei sied enfawr.
Ynghanol y sied mae 'na hen dractor coch - sgerbwd o beth a deud y gwir. Ond gan mai hen dractor ei dad oedd, mae Geraint wedi dechrau ei adnewyddu, a'i obaith ydi gyrru'r tractor yn yr orymdaith fawr yn Sioe Amaethyddol Llanelwedd 2010.
Ddiwedd y mis yma fe fydda i, a Geraint hefyd, yn ymweld a siediau led led Cymru
Mawr, bach, pren, carreg, tô sinc, tô llechi, dim tô o gwbwl- dim ots. 'Da ni am glywed am eich siediau chi...
Felly, os oes ganddoch chi sied ddiddorol, neu os wyddoch chi am rywun efo sied
cysylltwch efo hywel@bbc.co.uk , Ac mi ddo i draw a pharcio'r fan tu allan i'r sied - neu tu mewn, os 'di hi'n sied digon mawr!
SylwadauAnfon sylw
Dyma'ch cwestiwn cyntaf...
Pam nad oes fersiwn Cymraeg o 'Strictly Come Dancing / With the Stars' ?
Rwy'n siwr gallet ti gael 'Brucie Bonus' am bresentio y rhaglen, ond pwy fyddai'r ferch orau i gymeryd rhan Arlene Philips ?