Coch, Gwyrdd Gwyn A Gwych!
Heb os, un o uchafbwyntiau Eisteddfod yr Urdd yr wythnos ddiwetha' i mi oedd rhannu'r platiaid boreol o'r pice ar y ma'n fwyaf blasus a brofais i erioed efo fy ffrind a'm cyd-gyflwynydd yn yr Ŵyl, Rhiannon Lewis. Cofiwch chi, tydi hi ddim yn hawdd deud "Ensemble llinynnol sydd ar y llwyfan" efo'ch ceg yn llawn. Ond fe lwyddon ni rhywsut. A llongyfarchiadau i barti Rhiannon, Aelwyd Llambed, am ennill yn canu'r gân 'Sgorio Gôl'.
Ma' pob steddfod yn steddfod wych - ond mi oedd hon yn wychach! Y safle ar gaeau Llanerchaeron yn berffaith. Y tywydd yn braf, a phob stondin ar y maes yn cynnig rhywbeth gwahanol o Fwyd Indiaidd i dylluan wedi 'i stwffio. Ond petai rhaid i mi ddewis un uchafbwynt o'r holl uchafbwyntiau, yna mi faswn i'n dewis seremoni'r cadeirio. LlÅ·r Gwyn Lewis enillodd y gadair hardd a gynlluniwyd gan Glan Rees.
Teulu'r diweddar Dic Jones oedd yn cyflwyno'r gadair hardd ac roedd Dic wedi gweithio efo Glan ar y cynllun. Yr hyn sy'n drawiadol am y gadair ydi'r ffenest liw yn ei chefn. "Ffenest i edrych mas, i edrych i'r dyfodol" dyna oedd dymuniad Dic. A'r llun oedd gan Glan yn ei feddwl oedd llun drwy ffenest storws yr Hendre, cartre' Dic, lle gwelwch chi ar yr olwg gynta' y môr a'r amaethu. Yn y canol, y dywysen dri lliw i gynrychioli lliwiau'r Urdd - gwyrdd y ddeilen, coch y coesyn yn cynrychioli cyd-ddyn, a'r had gwyn - y Creawdwr yn sicrhau ffrwyth a dilyniant. Ac ar gefn y gadair 'mae 'na gwpled o waith Dic Jones:
"A wel y gamp, geilw i go'
Swyn y gymdeithas honno."
Diolch Ceredigion am 'steddfod gofiadwy, a rŵan mae'r teithio'n ailgychwyn. Dydd Mawrth, Mehefin yr 8fed fe fydda i'n crwydro o gwmpas Bronwydd a Llanpumsaint, cyn symud i Aberystwyth, gwisgo fy leotards a mynd i ddosbarth Yoga!
Os 'da chi am i'r fan a fi ddŵad i'ch ardal chi, cysylltwch efo mi drwy e-bost hywel@bbc.co.uk
SylwadauAnfon sylw
Cadair hyfryd iawn. Does dim angen i rywbeth bod yn gymleth i fod yn gampwaith. (Fedrwch dweud hyn am y grefft o geiriau hefyd- mae gan y Sais gair iawn- "Wordsmith" )