O Bancffosfelen i Bangalore
Ydi mae hi'n dipyn o daith, ac yn beryglus iawn - yn enwedig rhwng Tymbl a Pontyberem!
Gadwch i mi esbonio. Dydd Sadwrn 'roeddwn i yn sioe Bancffosfelen,
Ìý
Yna, ar ôl galw heibio Parc y Scarlets, ddoe, lle roedd y ´óÏó´«Ã½ wedi trefnu diwrnod agored ddydd Sul, i fynny a fi i Langollen er mwyn treulio pedwar diwrnod yn yr Eisteddfod Ryngwladol-lle bydd 'na ddawnswyr o'r India(Bangalore, ella) corau o'r America(yn sicr), cantorion o Canton (hwyrach), a llond maes o liwiau llachar gwisgoedd cenedlaethol y gwahanol wledydd.
Yn rhyfedd iawn, 'tydi'r gefnogaeth Gymreig i'r Ŵyl ddim mor frwdfrydig ag y gallai fod, er fod unigolion a chorau fel Timothy Evans, Glanaethwy a Godre'r Arran wedi dangos eu bod nhw cystal bob tamed a chystadleuwyr unrhyw wlad yn y byd. Yn sicr fe fyddwn ni, ar Radio Cymru yn rhoi sylw i gystadleuwyr Gwlad y Gân, ac fe gewch chi glywed y cystadlu ar raglen Nia yn y bore a Geraint Lloyd yn y p'nawn ar ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Erbyn dydd Sadwrn fe fydda i yng ngharnifal Llangefni, ac fel hogyn o'r dre rydw i'n hynod o falch fod y trefnwyr wedi gofyn i mi agor y carnifal, ond fydd dim rhaid i mi wisgo fel Mozart, fel y g'nes i yng ngharnifal Llangefni ym 1949. Ond ydach chi'n nabod yr hogyn bach diniwed arall yn y llun ar y dde?
Ìý
Neb llai na Tony, o'r ddeuawd Tony ac Aloma.
Felly mae 'na obaith y gwela i chi naill ai yn Llangollen neu Langefni yr wythnos hon, neu yn Sioe Fawr Llanelwedd ym mhen pythefnos.
Gyda llaw diolch i Doris a Meinir Teilio am y sgwrs yn sioe Bancffosfelen, Os 'da chi am wybod unrhwy beth o hyn ymlaen am ddefaid Balwen anfonwch at hywel@bbc.co.uk