Dydd Sadwrn fe aeth Nia Hughes ar daith gerdded yng nghwmni 70 o'i ffrindiau- taith bedair milltir yn cychwyn o ganolfan Cywain yn y Bala. Pam fod taith mor fyr yn haeddu sylw, medda chi.
Wel, nid yn unig oherwydd fod yr arian godwyd yn mynd at achos da, ond am fod y ffaith fod Nia wedi, cerdded yn dangos merch mor ddewr ydi hi. Yn dilyn llawdriniaeth i godi ei bron ar ol darganfod fod ganddi ganser, fe benderfynodd Nia godi'r fron arall yn ogystal. Fe gwbwlhawyd y driniaeth rhyw fis yn ol, ac fe aeth ffrindiau ati i godi arian at Gronfa Siwrne Nia, fydd yn cefnogi gwaith ymchwil i ganser yn Ysbyty GlanClwyd.
Fe ges i'r fraint o gyfarfod Nia a'r criw i ddymuno'n dda iddyn nhw, ac os oes na rhywun yn yr ardal am gefnogi'r gronfa, cysylltwch a Lowri Rees, golygydd cylchgrawn WaBala.
Yr wythnos yma 'dw inna'n teithio i Barc y Scarlets i ddathlu 5,000ed gem y Scarlets ers sefydlutim Llanelli ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Nos Sadwrn fe fydd cewri'r Sosban yn croesawu Leinster o Ddulyn ar gyfer y gem hanesyddol hon. Y gic gynta am 18:30
Os da chi am agor eich drysau i mi, afonwch ebost at hywel@bbc.co.uk
Pwy fasa'n meddwl y gallech chi wasgu cymaint o dalent i mewn i un cae.
Ond fe lwyddodd Meurig Owen a'i dîm o drefnwyr i greu sioe gofiadwy eto eleni yn Llangeitho.
Yn y cylch roedd 'na geffylau, stalwyni ebolion, cesyg, a chobiau a hyd yn oed gi neu ddau yn cystadlu drwy'r dydd, a Gwyn Davies ar yr uchelseinydd yn cyhoeddi pwy oedd y cystadleuwyr.
Tu allan i'r cylch wrth y brif fynedfa, yn wir yr unig fynedfa, roedd y babell fawr wen (tua'r un maint a'r Babell Len ers talwm) ac yno roedd na feirniaid craff yn bodio tatws a moron, yn blasu bara brith a chacenau o bob math, ac yn sipian gwin cartref.
Fe welais i nionod oedd mor fawr a thrwm, prin y gallai'r beirniad eu codi nhw!
Llongyfarchiadau i Beryl Evans, yr ysgrifenyddes, am drefnu arddangosfa, oedd yn profi fod na grefftwyr, garddwyr, a chogyddion, medrus iawn yn yr ardal.
Ydw, 'dwi wedi cychwyn ar y teithio unwaith eto, ac ymhen yr wythnos fe fyddai'n crwydro ardal y Bala . Os oes 'na straeon diddorol, a phobol siaradus yn eich ardal chi- gadewch i mi wybod. Efallai eich bod chi newydd ffurfio Cwmni Drama neu gôr-cysylltwch efo mi.
Hwyrach fod na gasglwyr diddorol yn byw yn y cylch-anfonwch air. Y cyfeiriad ydi- hywel@bbc.co.uk