ANGEL CAPEL Y GROES
Mae ganddo' chi boen dirdynnol yn eich pen. Ar ôl ymweliad a'r ysbyty, mae nhw'n cadarnhau fod ganddoch chi diwmor ar yr ymenydd, ac y bydd yn rhaid i chi gael llaw driniaeth. Y noson honno, a chithau ar fin mynd i gysgu, mae'r 'stafell yn goleuo ac
mae angel yn eich cyffwrddchi ar eich talcen. Mae'r boen a'r tiwmor yn diflannu.
Gareth Rowlands, fu'n son wrtha i am ymweliad yr angel, ym mynwent Capel y Groes, Llanwnnen.
Fe gewch chi glywed y sgwrs ar raglen Nia yr wythnos nesa.
Yn y fynwent hon hefyd, mae bedd joci y ceffyl enwog, Nans o'r Glyn, y canodd Doreen Lewis amdano, ac fe ges i ei hanes o gan weinidog y capel - Cen Llwyd. Mae'r diddordeb mewn mynwentydd ar gynnydd, ac mae carreg fedd yn gallu bod yn
ffynhonell bwysig o wybodaeth, yn enwedig os ydach chi'n olrhain hanes eich teulu.
Os oes 'na fynwent ddiddorol yn eich ardal chi, lle mae 'na garreg fedd go anghyffredin yna cysylltwch efo mi hywel@bbc.co.uk
Gyda llaw, glywsoch chi am y wraig, oedd wedi rhoi amser caled i'w gwr ar hyd ei oes, druan bach, yn gofyn iddo fo un noson "Wyti wedi penderfynnu be' fasa ti'n hoffi ei gael ar dy garreg fedd?" "Ydw" medda fo'n dawel benderfynol "Gŵr yr uchod"