Atebion o Geredigion
Ar gais gofynnais i Owain Clarke ymchwilio i nifer o honiadau ynglŷn â thaflenni'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion
Mae cwestiynau a sylwadau gwreiddiol Rhys i weld yn .
Dyma gasgliadau Owain.
Nid yw'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gynnwys enwau ymgeiswyr na dyddiad yr etholiad ar eu taflenni. (Eto i gyd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu bod eu gohebiaeth yn cynnwys naill ai enw'r ymgeisydd etholaethol neu'r ymgeisydd/ion rhanbarthol)
Mae hawl gan bob ymgeisydd mewn etholaeth neu ranbarth ddosbarthu taflen drwy wasanaeth "candidate mailing" y Post Brenhinol. Mae'r Post Brenhinol yn cynnig cyngor ynglŷn â'r rheolau. Gweler .
Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd yn cynnig canllawiau i ymgeiswyr .
Mae'r dwy daflen "Gohebiaeth Etholiad" y Democratiaid Rhyddfrydol y llwyddais i gael gafael arnyn nhw YN cynnwys y wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â phwy sy'n eu hyrwyddo a'u cyhoeddi ayyb.
O ran cyllido'r taflennu, dywed y Democratiaid Rhyddfrydol fod "arian ar gyfer y taflenni lleol yn dod o goffrau'r blaid yn lleol ond bod cyllid ar gyfer taflenni rhanbarthol, ar hyd a lled Cymru yn gyfuniad o gyllid lleol a chyfraniadau gan y blaid Gymreig ganolog."
Gwrthododd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yr awgrym fod y blaid wedi gorwario yn yr etholaeth.
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cadarnhau nad y'n nhw wedi derbyn unrhyw gwyn ynglŷn â'r ymgyrch yng Ngheredigion.
SylwadauAnfon sylw
diolch am yr esboniad. Mae'n gwneud synwyr ond eto dydy e ddim. Pam defnyddio y direct mails y hyrwyddo'r ymgyrch ranbarthol yn hytrach na John Davies eu hymgeisydd yng Ngheredigion, sedd maen nhw i fod i dargedu?
Rhys, Aberystwyth
Derbyniais ddwy daflen etholiadol sgleiniog drwy'r post gan y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Yn un ohonynt yr oedd Mark Williams AS yn honni ei fod ef a'i gyd-ymgyrchwyr yn y blaid yn poeni am swyddi a gwasanaethau lleol. Ond wrth graffu ar y taflenni eu hunain , sylwyd eu bod ill dwy wedi ei hargraffu gan gwmni o Gaerdydd! Byddai angen inni i gyd boeni am swyddi a gwasanaethau lleol pe bai pob plaid yn dewis peidio a chefnogi'r cwmniau argraffu a geir yma ar garreg y drws yng Ngheredigion. Diolch i'r drefn nad yw pob plaid mor rhagrithiol a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd!
Bleddyn Huws, Tal-y-bont