´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Helynt am hysbysebion

Vaughan Roderick | 09:39, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Fe fydd darllenwyr y Daily Post wedi sylwi ar hysbysebion dwy dudalen heddiw a ddoe yn y papur yn croniclo gwaith a safbwyntiau dau o aelodau seneddol y gogledd sef Hywel Williams ac Elfyn Llwyd. Gallwch ddisgwyl gweld llawer mwy o'r rhain yn y dyfodol wrth i aelodau seneddol o bob lliw fanteisio ar lwfans gyfathrebu newydd o ddeg mil o bunnau'r flwyddyn.

Cafodd y lwfans ei chymeradwyo gan Dy'r Cyffredin ychydig dros fis yn ôl er gwaethaf cwynion y byddai'n rhoi mantais wleidyddol annheg i ddeiliaid seddi. Yn eironig efallai, pleidleisiodd Elfyn Llwyd ynghyd â'i gyd aelod Plaid Cymru, Adam Price, yn erbyn y lwfans. Ni fwrodd Hywel Williams ei bleidlais.

Roedd y mwyafrif llethol o'r aelodau wnaeth gefnogi'r lwfans yn aelodau Llafur, yr union blaid sy'n cwyno am ymddangosiad hysbysebion Mr Williams a Mr Llwyd ar drothwy etholiadau'r cynulliad.

Mae cofnod llawn o bwy bleidleisiodd o blaid ac yn erbyn y lwfans ar gael yn .

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:54 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd philip:

    Beth yw lwfans ? Thing ti'n iwso yn y bath yn lle 'sponge'

  • 2. Am 11:00 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    lwfans n.m. (lwfansau)- Allowance

  • 3. Am 13:28 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Hmm.. Beth mae eisiau 'allowance' o ddeg mil o bunnau, pan gallen nhw ddechrau 'flog' yn rhad ac ddim ???

  • 4. Am 15:01 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Dwi ddim yn deall beth ydi'r ffws. Os yw hynny wedi cael ei basio yn y Ty Cyffredin, wel pam lai cymryd mantais? Ai LLafur sydd ychydig yn groendenau, ac efallai'n difaru eu bod heb weld y cyfle???

  • 5. Am 15:18 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mae'r lwfans gyfathrebu yma ychydig yn anheg gan roi fwy o fantais i aelodau seneddol na sydd ganddy nhw yn barod. Mae hi yn mynd i fod yn anoddach ar ymgeiswyr etholiadol i gael sylw ac i ennill cynabyddiaeth. Dwi'n credu fod hyn yn mynd i amharu ar y broses ddemocrataidd a mynd a ni yn agosach i etholiadau Americanaidd lle mae y ymgeiswyr sydd yn 'incumbents' yn cael mantais fawr.
    Ydy hyn yn gychwyn ar y broses o ariannu cyhoeddus yn dilyn adroddiad Haydn Phillips?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.