Lincs
Mae wedi bod yn bwydo'i fol ac yn helpu coffrau ei blaid yn Aber. Dwi wedi bod yn ceisio spotio yn y casgliad o luniau o gynhadledd flynyddol Cymuned heb unrhyw lwc ond beth ar y ddaear mae Chris Schoen yn gwisgo yn y llun ?
"Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier." Geiriau Serch hynny 'dwi am ei gynnwys fel enghraifft dda o ba mor anodd yw hi i ddod o hyd i gartref y dyddiau yma.
Ar yr ochr Saenseg ar flog mae'r Ceidwadwr Jonathan Morgan yn galw am bwerau llawn i'r cynulliad ac mae gan stori ddifyr am fethiant y Ceidwadwyr i ddanfon cynrychiolydd i un o gyfarfodydd CBI Cymru.
Gyda llaw, byswn yn ddiolchgar i glywed am unrhyw un sy'n bwriadu blogio ar noson y cyfri. Fe fyddai i'n blogio o stiwdio S4C a bydd disgwyl i Richard Wyn Jones gyfrannu, er nad yw'n gwybod hynny eto! Paid poeni Richard - y cyfan rwyt ti'n gorfod ei wneud yw sibrwd yn fy nghust.
SylwadauAnfon sylw
Dwi ddim yn bwriadu blogio ar noson yr etholiad (ella nai er mwyn rhoi sylw neu ddau) ond yn edrych ymlaen i ddarllen blogiau pobl fydd yn gwneud. A fydd y ´óÏó´«Ã½ yn darparu rhaglenni ar-lein? Os byddywch, ym mha iaith? Rwy'n fyfyriwr yn Lloegr ac yn awyddus iawn i ddilyn digwyddiadau'r noson :)
Dwy ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn yna, Sion. Fe wnai ofyn yn y gwaith fory a phostio ateb yn fan hyn.
Nes i ddim gweld ffoto ohonof chwaith. A wel.
Chris yn gwisgo'r ty mwyaf mae o'n medru fforddio, wrth gwrs...;-)
Dwi'n edrych at y noson Vaughan. Dylai fod yn ddifyr tu hwnt!
Gyda llaw, llongyfarchiadau ar y blog - gobeithio y bydd yn parhau wedi'r etholiad?! A gyda llaw, be ddaeth o'r pol arall 'na gan Beaufort yr oeddet ti'n ei addo? (Gweler y rhifyn cyfredol o Barn i weld pa fath o rwystredigaeth mae sylwadau o'r fath yn eu creu!)
Sion, Yr ateb i dy gwestiwn yw y bydd y rhaglenni canlyniadau i gyd ar gael yn fyw arlein.
Dicw, Dwy'n meddwl y dylet ti wylio allan am arolwg dros y Sul.
Diolch yn fawr, Vaughan. Dwi'n edrych ymlaen yn barod!
Dwi yn neuadd y ddinas, Caerdydd, ar noson yr etholiad ar gyfer rhwydwaith GCap Media, ond os oes munud/awr sbar dwi'n siwr na'i ychwanegu cwpl o eiriau anniddorol i'r hen flog!
Bydd y pôl yn ymddangos yn y Wales on Sunday efallai?
Yw'r ´óÏó´«Ã½ yn comisiynu pôl eleni? Sylwi fod y ´óÏó´«Ã½ yn yr Alban wedi comisiynu sawl pôl yn ystod y misoedd diwethaf
Hedd, Doeddwn i ddim yn ceisio creu rhiw ddirgelwch mawr. Yr hyn dwy'n deall am bolau (a gallai hyn newid) yw ein bod yn disgwyl canlyniadau arolwg gan gwmni newydd yn un o bapurau Caerdydd y penwythnos yma. Dyw hi ddim yn eglur pa gwestiynnau yn union sydd wedi eu gofyn. Mae disgwyl canlyniadau Beaufort y penwythnos canlynol. Dwy ddim yn siwr pryd y cawn ni "recall" ITV/NOP sy'n fy atgoffa bod gen i fwy i ddweud am yr arolwg yna!
Sut mae Vaughan ers talwm? Yr wyf yn gwisgo ty chwarae fel gimic i dynnu sylw at ymgyrch Cymuned - Cartrefi.com.
Dwy'n iawn Chris, a fi sy'n llwyr ar fai ein bod heb gysylltu.