Pôl...a Chaerffili ac Islwyn-diweddarwyd
Cofiwch am gyhoeddi canlyniadau pôl ail-alw ITV Wales heno. Os ydy'r sibrydion dwi'n eu clywed yn gywir fe fydd y blogiau yn ffrwydro heno! (Ychwanegiad; canlyniad yr arolwg etholaethol oedd Llafur;32%, Plaid;26%, Ceid.;19%, Dem. Rhydd.;15%. Gan fy mod wedi berniadu'r arolwg gwreiddiol dwi'n bwriadu aros nes gweld yr ystadegau llawn cyn gwneud sylwadau manwl)
Dwi wedi treulio’r diwrnod yng Nghaerffili ac Islwyn, dwy etholaeth hynod o anodd eu darllen oherwydd presenoldeb dau ymgeisydd Annibynnol cryf; Ron Davies a Kevin Etheridge.
Tarais i mewn i Jocelyn Davies sy'n darogan y gallai Plaid Cymru gipio'r ddwy sedd sy'n gwneud i Jocelyn fecso am ei sedd ranbarthol. Yn sicr mae Plaid Cymru yn ennill y frwydr bosteri o bell ffordd ond mae'n bosib darllen llawer gormod i mewn i hynny.
Yn sicr doedd Wayne David ddim fel pe bai e'n poeni pan gwrddais â fe ddydd Mawrth. Ond pwy sy'n gwybod? Mae'r etholiadau yma ymysg y rhai mwyaf amhosib i'w dirnad dwi'n eu cofio.
SylwadauAnfon sylw
Doedd Wayne david ddim yn poeni am golli Rhondda yn '99!
Dydwi ddim yn credu bod Plaid Cymru'n agos yn Islwyn on mae Caerffili'n mater arall ac efallai am fod yn sioc fawr y noson.