Rhyfel y Rhosynnau
Roedd Rhodri mewn hwyliau da yn y lansiad Llafur heddiw er bod neb cweit yn deall pam y cynhaliwyd lansiad plaid y rhosyn coch yn Ysgol Gynradd y Rhosyn Gwyn yn Nhredegar Newydd. Efallai bod y blaid, sy'n mynnu mai hi yw "gwir blaid Cymru", hefyd am brofi ei bod yn gallu apelio at Efrogiaid yn ogystal a Lancastriaid!
Roedd arweinydd Llafur Cymru hyd yn oed yn fodlon yfed o botel o ddwr coch clir (Vimto fel mae'n digwydd) ar gyfer y camerau.
Beth yw'r rheswm am hwyliau da Rhodri tybed? Wel, hwn yw ei etholiad olaf, wrth gwrs, a doed a ddelo mae'n benderfynol o fwynhau ei hun. Mae e hefyd yn gallu bod yn weddol sicr na fydd beth bynnag sy'n digwydd fan hyn hanner cynddrwg a'r Alban.
Ond y prif reswm, dwi'n credu, am hapusrwydd Rhodri yw arolwg barn NOP/ITV yn gosod y Toriaid yn yr ail safle. Tybed a fyddai fe'r un mor hapus o glywed bod yna o leiaf un arolwg arall ar ei ffordd a allai ddangos canlyniad gwahanol iawn?
SylwadauAnfon sylw
Mae 'na arolwg arall ar y ffordd? Os felly gan bwy a phryd?! (os cai fod mor hy a gofyn!)
Mae hyd yn oed Rhodri Morgan yn nabod nad yw poliau ITV Wales byth yn gywir, felly sioe yn unig yw unrhyw "hapusrwydd" ar ei ran o.
Mae modd gweld copi o'r maniffesto (yn Saesneg yn unig) arlein yma:
Siomedig iawn yw polisiau Llafur ar yr Iaith Gymraeg!
Gellir gweld copi o'r maniffesto yn Gymraeg yma:
Pwy sydd wedi cynnal yr arolwg?
Esboniad ar ei ffordd - Vaughan