Siop Rithwir Jack Brown
Mae Karl wedi paratoi prisiau ar ba ganran o'r etholwyr fydd yn pleidleisio Ddydd Iau. Trideg wyth y cant wnaeth bleidleisio tro diwethaf. Mae Karl yn disgwyl canran uwch y tro hwn
30-31% 25-1
32-33% 20-1
34-35% 10-1
36-37% 6-1
37-38% 9-2
40-41% 7-2
42-43% 3-1 FFEFRYN
44-45% 7-2
46-47% 6-1
48-49% 8-1
50-51% 10-1
52-53% 14-1
54-55% 20-1
SylwadauAnfon sylw
Be mae'r 'bwci' yn roi ar etholaeth Wrecsam? Ydy'r Pwyliaid yn mynd i'w chario hi i Dr Marek.
Does dim amser da Karl i wneud yr etholaethau i gyd yn anffodus. Mae'n gwneud rhain fel ffafr ar ol colli ei waith pan gafodd y "Jack Brown" go iawn ei lyncu gan Ladbrookes. Ond i rheiny sy'n mwynhau bet etholiadiol mae na newyddion da. Oherwydd y diddordeb yn ei broffwydoliaethau yn fan hyn mae Karl yn gobeithio perswadio bwci Cymreig annibynnol i agor llyfr betio ar wleidyddiaeth Cymru tebyg i'r un yr oedd Jack Brown yn cynnig ers talwm. Fe fydd na newyddion am hyn yn y man.