´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis

Vaughan Roderick | 18:26, Dydd Llun, 28 Mai 2007

Hwre! Dw i wedi curo chi i gyd am y tro cynta! Roedd ambell i un yn agos ond neb yn gwbwl gywir.

Roedd na bump ateb gyda'r llythrennau cyntaf yn sillafu'r gair "Enfys"

Roedd Guto yn gywir wrth ddweud "Ymerodaeth alltud Caerfaddon = Haile Selassie o Ethiopia" ac wrth enwi Sam Tan fel "arwr ein pentre bach ni". Dyna'r E a'r S felly.

Sylweddolodd Dewi fod tref Clitheroe yn etholaeth Nigel Evans sef yr N. Ond doedd neb yn gwybod bod " Fy nghariad i'n Fenws" nac mai Yeovil oedd hen etholaeth Jeremy John Durham Ashdown- Paddy i'w ffrindiau. Roedd yr awgrym y gallai'r Y fod yn gyfeiriad at Ynys Metgawdd a'r F yn fodan yn ffyrdd eraill clyfar o gyrraedd at yr ateb.

Mae hwn lot yn haws.

Rhowch y Garethiaid yn nhrefn y wyddor.

Dyn Cymru yn Awstralia, dyn Hawke ar lwyfan dramor, Gareth benywaidd, gwas bach David, Gareth y cynulliad, Gareth y senedd a'r Gareth wnaeth golli i Wil.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:19 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    AAAARgh !!!

  • 2. Am 19:32 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Mor belled:

    Garteh Jenkins yn Awstralia, Gareth Evans Gweinidog tramor Hawke, Gareth Pierce, benywaidd, Gareth Jones y cynulliad a Gareth Williams y senedd........Gwas bach David ? Gareth wnaeth golli i Wil ?

    Pob lwc i bawb - rwy'n cymryd fy nhad allan am beint !!!

  • 3. Am 21:20 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Bil:

    Dyma gynnig arni!
    Dyn Cymru yn Awstralia - G. Thomas
    Dyn Hawke ar lwyfan dramor - G. Evans
    G. benywaidd - Ms G. Pierce
    Gwas bach David(Wigley) y cyn A.S -
    G. Thomas?
    G. y cynulliad - G. Jones
    G. y senedd - G.R.Thomas (Harrow)
    Y G. a gollodd i Wil - G. Gates

    Yn nhrefn y Wyddor:
    GARETH : Evans, Gates, Jones, Pierce,
    Thomas, Thomas, G.R.Thomas.

    Gyda llaw yn y cwis blaenorol onid Fenws yw fy nghariad?

    Blog penigamp!
    Bil

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.