Dal i ddisgwyl
Dw i nôl wrth fy nesg ar ôl cwpwl o ddyddiau o dorri gwair a smwddio crysau. Dw i newydd ddanfon canlyniadau rhanbarthol yr etholaethau i bawb wnaeth ofyn amdanyn nhw. Mwynhewch! Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau eu postio nhw i wneud hynny- mae'n ormod o waith i ddiogyn fel fi, Hedd!
Treuliodd fy nghydweithwyr y diwrnod ddoe yn ffonio'r byd a'r betws ynglŷn â'r sefyllfa wleidyddol. Does 'na ddim mwg gwyn yn dod o simnai’r Fatican eto ond mae'n gymharol amlwg mai yfory (Dydd Mercher) yw'r diwrnod allweddol.
O'r hyn ydyn ni'n casglu mae hi bron yn sicr na fyddai Mike German yn gallu darbwyllo ei blaid i wasanaethu mewn clymblaid. Y broblem, mae'n deybyg, yw nad yw Mr German ei hun yn sylweddoli hynny. Dyna'r rheswm y mae'r wasg a'r cyfryngau yn cael eu defnyddio i siarad dros ben ei harweinydd a gweddill y Democratiaid Rhyddfrydol gan awgrymu cytundeb llai ffurfiol. Ond ein hargraff ni yw na fyddai hynny chwaith yn dderbyniol i drwch aelodau plaid y canol.
Mae hynny yn gadael Ieuan Wyn Jones fel y ffigwr allweddol. Fe fydd grŵp Plaid Cymru ynghyd a rhai o bobol fawr y blaid yn trafod y sefyllfa yfory gan ystyried beth bynnag sydd gan Lafur i 'wgynnig a gofynion eu partneriaid posib yng nghlymblaid yr enfys.
Yn y cyfamser mae nifer o fewn y Blaid Lafur yn amau bod eu harweinwyr wedi bod yn ystyried delio â Phlaid Cymru ers tro byd. Yn eironig ddigon ymhlith y rhai sy'n amau hynny mae ambell i aelod wnaeth ymosod yn chwyrn ar Betsan a finnau am awgrymu’r fath beth yn ystod yr ymgyrch.
SylwadauAnfon sylw
Diolch am y ffigyrau Vaughan!
Unai dwi wedi gwneud smonach go iawn o bethau, neu roedd dim ond o 400 pleidlais y cadwodd Janet Ryder ei sedd. 400 yn fwy i'r Ceidwadwyr a buase ganddynt dair sedd restr yn y Gogledd. Felly hefyd yn y canolbarth, ble roedd Llafur o fewn 400 pleidlais i gael trydedd sedd restr, gyda'r Blaid yn colli allan eto.
Roedd hi o fewn ychydig ganoedd o bleidleisiau felly i fod yn Plaid 13, Ceidwadwyr 13. Buasai'r un ychwanegol na i Lafur wedi bdo yn help iddyn nhw hefyd dwi'n siwr!