Dim ffiars o beryg! (2)
Ar ôl cyfarfod y grŵp Llafur prynhawn yma cadarnhaodd Rhodri Morgan bod llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a'r democratiaid Rhyddfrydol nawr yn "annhebyg iawn". Dim limo i Mike felly!
Yn ôl Rhodri mae trafodaethau'n parhau â Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn ymgais i ffurfio llywodraeth leiafrifol Llafur a fyddai'n gynaliadwy. Y broblem yw y gallai cytundeb felly fod hyd yn oed yn llai atyniadol na chlymblaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol a bod Plaid Cymru yn debyg o godi pris uchel iawn am ei chefnogaeth.
SylwadauAnfon sylw
Diddorol iawn.
Beth sydd yn drist yw'r ffaith fod etholwyr Cymru wedi cael digon o lywodraeth Lafur mewn unrhyw ffordd ond tydi neb yn barod i drafod yr 'eliffant yn yr ystafell'
Piti mawr
DYLAN
Nid wyf yn deall y pwynt mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio ei wneud. Nid ydynt byth yn mynd i gael mwyafrif yn y Senedd - yr unig ffordd o lywodraethu yw gyda rhywun arall.
Am unwaith mae gennai gydymdeimlad hefo German.
Mae ei blaid fel petaent wedi colli unrhyw fath o berspectif. O wrando ar lawer ohonynt fasa dyn yn tybio eu bod wedi bod mewn llywodraeth ers 2003 - FUON NHW DDIM! Ac wedi elwa dim yn wleidyddol o fod yn wrthblaid am 4 mlynedd, pa reswm sydd 'na i dybio y gwna'n nhw'n well o gael 4 mlynedd arall fel gwrthblaid (gwrthblaid sydd bellach yn ranedig yn ogystal a bod yn aneffeithiol)...?
Dwi wedi gofyn yr union gwestiwn yma i rai o'u hymgeiswyr aflwyddianus. Eu hymateb? Unai edrych yn synn neu dweud rhywbeth fel "bydd Plaid Cymru yn gorfod cynnal Llafur ag felly fe gawn ni ymosod arnyn nhw wedyn" (Plaid nid Llafur, wrth gwrs!) Duw a'n gwaredo...
Y gwir amdani yw nad oes gan y RhyddDem unrhyw syniad beth mae nhw'n ei wneud neu lle mae nhw'n mynd. A tydio'n eironig: ar ol dadlau o blaid pleidlais gyfrannol ers blynyddoedd, mae nhw'n sticio eu pennau yn y tywod unwaith mae nhw'n gwynebu canlyniadau cyfundrefn o'r fath...
Efallai y dylem gael etholiad arall mewn ychydig o wythnosau wedi'r cyfan? Cyfle arall i roi cic iddynt!