´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Enwogion anghofiedig (2) -John Basson Humffray

Vaughan Roderick | 12:25, Dydd Sul, 27 Mai 2007

Cafodd JB Humffray ei eni a'i fagu yn y Drenewydd yn fab i wehydd. Roedd ei dad yn gefnogwr i'r siartwyr ac yn ddyn oedd yn darllen yn helaeth gan astudio'r athronwyr clasurol yn ofalus. Cred fawr y tad a'r mab oedd yr arwyddair Lladin "Salus populi suprema lex" (lles y bobol yw'r gyfraith uchaf) ac fe lynodd JB at y gred honno gydol ei oes.

Yn ddyn ifanc ymfudodd i drefedigaeth Fictoria yn Awstralia i astudio'r gyfraith ond roedd apêl y mwynfeydd aur yn gryf ac yn fuan penderfynodd drio ei lwc yn Ballarat.

Pan gyrhaeddodd y dref honno fe'i synnwyd gan ddiffyg hawliau'r mwyngloddwyr a'r fordd yr oedd y tirfeddianwyr a'r awdurdodau yn eu trin. Lansiodd papur newydd i leisio cwynion y "diggers" a chadeiriodd gyfarfod o ddeg mil o bobol i sefydlu'r Ballarat Reform League.

Yn y cyfarfod hwnnw mabwysiadwyd cynnig sy'n cael ei ystyried fel conglfaen annibyniaeth Awstralia "that it is the inalienable right of every citizen to have a voice in making the laws he is called on to obey, that taxation without representation is tyranny". Cafodd JB ei ethol yn ysgrifennydd y cynghrair ac arweiniodd dirprwyaeth i lywodraethwr y dalaith ar ran y mwynwyr.

Methiant fu'r ymdrech hwnnw a phenderfynodd nifer sylweddol o fwynwyr wrthryfela yn erbyn y goron. Codwyd baner y "Southern Cross" yn Eureka ar gyrion Ballerat a pharatôdd y mwynwyr am frwydr a'r lluoedd Prydeinig.

Roedd heddychiaeth yn sylfaen i wleidyddiaeth Humffray a chofnodir iddo dreulio oriau yn ceisio perswadio’r dynion i roi'r gorau i'w gwrthryfel. Methiant fu ei ymdrechion ac yn y frwydr a ddilynodd lladdwyd degau o ddynion, mwynwyr yn bennaf.

Cyhuddwyd tri ar ddeg o ddynion o deyrnfradwriaeth. Cychwynnodd JB ymgyrch ar eu rhan a gwrthododd rheithgorau eu cael yn euog er bod y dystiolaeth yn eu herbyn yn gwbwl eglur. Yn ôl haneswyr digwyddiadau Eureka a'r achosion llys a'u dilynodd oedd man geni Awstralia fel cenedl.

Fe etholwyd JB yn ddiwrthwynebiad i gynrychioli Ballerat yn senedd y dalaith ond erbyn diwedd ei ddyddiau roedd yn byw ar gardod. Fe fu farw yn 1891 ac fe'i claddwyd yn Eureka.

Mewn seremoni wrth i fedd ychydig fisoedd yn ôl dywedodd un o haneswyr amlycaf Awstralia'r Athro John Maloney hyn am JB Humffray

" A patriot will die for his or her country. A saint will die for God. John Basson Humffray did none of those things. In fact, it has to be recognised that he refused to die - he was simply not going to be associated with his beloved mates in life in taking physical action towards constitutional ends. What guided him, of coruse, was that most sacrosanct inner prompting of the human heart that we call conscience. No sacred arbiter is higher than that - even God."

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.