Lliwiau'r enfys
Doeddwn i ddim wedi bwriadu rhannu hwn am y tro ond gan fod Nick Speed eisoes wedi blabio ar "Waterfront" waeth i mi gyfaddef fy mod i yn un o'r rhai oedd yn swpera yng nghartref Rhodri Morgan pan ddaeth y newyddion am benderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol neithiwr.
Mae'n adrodd cyfrolau am Rhodri ei fod wedi cadw at ei wahoddiad er ei fod yn synhwyro beth oedd am ddod o gyfeiriad Llandrindod. Roedd y gwin yn dda a'r gwmnïaeth yn well a dw i'n dweud dim byd mwy na hynny.
Cyn belled ac y mae'r tri arweinydd arall yn y cwestiwn mae'n anodd rhagweld yr un ohonynt yn gallu cefnu ar yr "enfys". Mae'n amhosib dychmygu'r dirmyg y byddai Ieuan yn ei ddioddef pe bai'n gwrthod y cyfle i fod yn Brif Weinidog tra bod y Ceidwadwyr o fewn dyddiau i fod â gweinidogion mewn llywodraeth am y tro cyntaf ers 1997. Pe bai Mike German yn newid ei feddwl eto fe fyddai ei hygrededd gwleidyddol yn deilchion. Dyw'r gêm ddim ar ben eto ond ry' ni'n closio at y diwedd.
SylwadauAnfon sylw
Vaughan,
Beth am dy gabinet enfys ffantasi di? Mae gan Glyn Davies rai awgrymiadau ar ei flog. Wyt ti am fentro? :-)
Troellog iawn yw llwybrau bywyd, megis gwynt yr hwyr.
Pa le cludir ninnau ganddo
Duw yn unig wyr..............
Amau'n fawr doethineb y Blaid yn cydweithredu gyda'r Toriaid - Ieuan efallai wedi penderfynu bod Y Cymoedd ddim yn bwysig yn y tymor hir ?
Buasai sbel bach y tu allan i lywodraeth yn gwneud byd o les i'r blaid Lafur yng Nghymru. Bydd clymblaid yr enfys yn sicr o rwygo ei hun yn ddarnau yn hwyr neu'n hwyrach, a bydd yr etholwyr yn gweld y Blaid Lafur fel yr unig ddewis i gamu i'r bwlch. Dwi'n siwr bod Rhod yn sylweddoli hynny, a dyna pam oedd y gwin yn llifo yn ei soiree.