Siop Rithwir Jack Brown
Ar ôl dos ddwbl o newyddion da i Blaid Cymru ddoe mae gan ein bwci Karl Williams ronyn o gysur i Lafur heddiw yn ei broffwydoliaethau olaf.
Bro Morgannwg
Llafur 4-7
Ceidwadwyr 5-4
Plaid Cymru 50-1
Dem. Rhydd. 100-1
Caerffili
Lafur 2-5
Ron Davies 3-1
Plaid Cymru 9-2
Ceidwadwyr 25-1
Dem Rhydd. 50-1
Sylw Karl; "Mae mwyafrif Llafur sylweddol a phleidlais Plaid Cymru gadarn yn golygu bod hwn yn dalcen caled i'r gŵr oedd arfer perchen y sedd"
Sylw Vaughan; "Am ddim ond yr eil dro dw i am anghytuno â Karl. Dw i o'r farn mai Plaid Cymru yw'r bygythiad i Lafur yn fan hyn."
SylwadauAnfon sylw
Fel person newydd i'r busnes blogio 'ma rhaid i mi gyfadde mod i wedi mwynhau dychwelyd yn ddyddiol os nad sawl gwaith y dydd i ddarllen y newyddion a sylwadau diweddaraf dros y mis diwethaf.
Dwi'n credu fod y blog yma yn llenwi bwlch enfawr sydd gyda ni yng Nghymru oherwydd diffyg dewis o bapur newydd dyddiol sy'n rhoi sylw teg i wleidyddiaeth Cymru. Roeddwn yn yr Alban yn ddiweddar a nes i ffeindio'n hyn yn darllen holl helynt yr etholiad yno mewn sawl papur newydd swmpus a teimlo'n hollol genfigenus!
Llongyfarchiadau Vaughan. Dwi ddim yn siwr iawn be fydda'i neud rwan ar ol nos fory?
Newyddion drwg i Lafur yn Wrecsam, dyma fel dwi'n gweld hi:
John Marek 10/11
Llafur Evens.
Ceidwadwyr 20/1
Rh Dem 40/1
Plaid Cymru 50/1
Na phoener, Berwyn. Dwy'n falch i allu dweud y bydd y blog yn parhau ar ol yr etholiad- er efallai ddim yn cael ei diweddaru mor aml!