Tony y Tacsis a fi
Roeddwn yn ceisio meddwl ddoe am rywbeth y gallwn ychwanegu at y môr o eiriau a ddarlledwyd ac a ysgrifennwyd ynglŷn â phenderfyniad Tony Blair i gamu o'r llwyfan. Dim ond y bore 'ma y cofiais i hanesyn am un o ddyddiau gwaethaf fy ngyrfa fel darlledwr. I ddweud y gwir dw i wedi bod yn ceisio anghofio am y digwyddiad!
Yn ystod etholiad 2001 fe drefnwyd i mi wneud rhaglen a Tony Blair ar gyfer Radio Wales yn fyw o westy yng Nghanol Caerdydd. Y syniad oedd gwahodd gwrandawyr i ffonio mewn a'u cwestiynau i'r Prif Weinidog. Fe aeth y rhaglen yn iawn ond cefais i (a Tony dw i'n meddwl) ein synnu gan gyn lleied o alwadau a dderbyniwyd.
Dim ond ar ôl y rhaglen y gwnes i ddarganfod y gwir echrydus. Doedd bron neb wedi clywed gair yr oedd gan y Prif Weinidog i'w ddweud oherwydd bod swyddfa tacsis cyfagos wedi ymyrryd a'r signal radio! Fe gadwodd cynhyrchydd y rhaglen yn dawel am y broblem gan adael i Tony a finnau balu 'mlaen. Gwnâ i ddim enwi'r cynhyrchydd dim ond dweud bod profiad fel yna yn paratoi dyn ar gyfer siomedigaethau mawr bywyd - methu ac ennill isetholiad seneddol mewn cadarnle Llafur er enghraifft.
SylwadauAnfon sylw
Dim Mr Viagra wyt tin son amdano ife Vaughan?
Mae gen i rhyw gof ei fod yn gyn gynhyrchydd yn uned wleidyddol y ´óÏó´«Ã½ cyn troi i fod yn lobiydd ar gyfer y diwydiant cyffuriau.. cyn cael ei gywilyddio yn y dull mwyaf anhygoel ym Mlaenau Gwent!
'I 'ad that Vaughan Roderick in the back of 'me cab once...very clever man..'!
Plis plis plis wneu di ddarllen stori gan Jon Snow [Channel 4 News] yn ei lyfr ardderchog 'Shooting History' am y tro roedd e'n 'stuck' mewn tacsi gyda nifer o wleidyddion blaenorol o Ogledd Iwerddon yr holl ffordd o Lerpwl i 'ferry' Holyhead efo merch ifanc roedd yn priodi y bore trannoeth...
Fel mae'n gweud, dysgodd e mwy am wleidyddiaeth Iwerddon yn y cwpwl o oriau 'na mewn blynyddoedd o wylio'r newyddion.