Y Blog Byw 11-12
11. 13 Y BNP yn polio'n dda yn Wrecsam yn ol Richard. Rhagor o dystiolaeth o " turnout" isel mewn ardaloedd Llafur.
11.25. Eluned Morgan yn beio arian am arglwyddiaethau am "newid hinsawdd yr ymgyrch"
11.26 John Griffith wedi colli Dwyrain Canewydd i'r Dem Rhydd. yn ol y Ceidwadwyr.
11.37 Plaid wedi cipio Gorllewin Caerfyrddin yn ol y Dem. Rhyddfrydol. Son bod y bleidlais Lafur wedi colapsio ym Mlaenau Gwent.
11.47 sibrydion bod Plaid Cymru wedi ennill yn hawdd yn Arfon
SylwadauAnfon sylw
Hmm.. Beth yw 'turnout' isel ?
Fyddai hanner cant [50%] yn isel yn etholiad cyffredinol, ond yn eitha' da [bydden ni yn meddwl] am etholiad y 'Senedd' ? Beth ydy'r gymhariaeth a'r etholiad ddiweddaf ?
Vaughan,
Dwi'n iawn yn meddwl os ydi'r stori yn Dwyrain Casnewydd os yn wir, yn golygu fydd Mike German mewn peryg o golli ei sedd?
Eaglestone wedi parcio fan goch wedi ei phlastro efo posteri Llafur reit tu allan i fwth pledleisho Maes G pnawn ma. Uchelseinydd yn bloeddio "VOTE LABOUR".
Y Cyngor wedi cal "anonomous tip" ac (dwin cymeryd) wedi ei symyd nhw ymlaen!
Bydd hi'n ddiddorol gweld faint o'r rhagolygon yma fydd yn wir.
croesi bysedd am arfon. cywilydd ar bobl wrecsam os yw'r bnp yn gwneud yn dda. dyna pam ei fod mor bwysig i ni i gyd fynd allan i bleidleisio - yn ol nicky wire - lazy people get lazy politicians...
Gartre dw i ar y funud, ac wedi cymryd seibiant o wylio'r teledu i ddod lan i'r stafell gyfrifiadur lan llofft .....
Yng nghanol cyffro'r etholiadau presennol, ni allaf lai nag edrych yn ôl ... i'r union adeg yma ym 1979. Ie wir, 3 Mai 1979 ac, yn ôl fy nhyb i, trychineb sy'n dal wedi gadael ei hôl arnom hyd heddi - pan enillodd y blaid geidwadol yr etholiad a Magi'n dod yn brif weinidog. Mor wahanol oedd yr hinsawdd y pryd hynny - byth eto (gobeithiaf o waelod calon)!
Yn wir, mae'n dipyn o ryfeddod mor bell rydym ni fel cenedl wedi cyrraedd oddi ar hynny, a'r newid cyfansoddiadol sydd wedi galluogi'r Cynulliad i ddod i fodolaeth - rydym wedi symud ymlaen gymaint fel y byddai'n hawdd iawn i bobl anghofio'n llwyr am gystudd a chyni'r 80au a dechrau'r 90au, am fod y cyfnod hwnnw fel pe bai mor bell yn ôl - mae fel pe bai cyfnod y diweithdra mawr a'r dadfeilio a brofwyd mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad yn perthyn i ryw hunllef sydd bron yn afreal.
Y gamp, yn yr oes sydd ohoni, yw peidio byth ag anghofio, rhag i ni lithro'n ôl .......
A dyma fi'n gorffen fy mhwt ....
Hwyl a nos da (mynd yn ôl at y teledu y byddaf - nid i 'ngwely - ddim ar unrhyw gyfri' - mae'n rhy gyffrous!)
Arwydd o gynydd bach i Blaid Cymru, er yn anffodus fe fydd Llafur dal i rheoli!
Yng Nghastell Nedd ychydig yn defnyddio'u pleidleisiau i bleidleisio am BNP, eraill yn pleidleisio am Alun Llewelyn, ymgeisydd gwych o Blaid Cymru!
Er roedd presenoldeb Gwenda Thomas (Llafur) ar y stadau cyngor gyda'i uchelseinydd wedi gyrru pobl allan. A yw'n bosib gwneud y teclynau swnllyd yn anghyfreithlon cyn yr etholiad nesaf?
bydd hi'n ddiddorol gweld faint o rhain fyd dyn troi allan yn wir.
Maes G ym Mangor = Maesgeirchen, Vaughan, nid Maes Garmon!! ;-)