Y diweddara
Mae'n hanner awr wedi unarddeg a dwy nol yn y bae ar gyfer rhaglenni amser cinio. Ar hyn o bryd dyma fel mae pethau'n sefyll. Fe fydd gan Lafur 26 aelod yn y cynulliad newydd. Fe fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol 6 -dyna beth yw fflatleinio 6-6-6 rhif y bwystfil. mae'r ffigyrau hynny'n sicr.
Gan ddibynnu ar ganlyniad y sedd olaf yng Ngorllewin De Cymru fe fydd gan Blaid Cymru 14 neu 15 a'r Toriaid 12 neu 13. Dauddeg saith rhyngddyn nhw felly.
Mae clymblaid rhwng Llafur a'r Democrataid Rhyddfrydol yn bosib ond gyda dim ond 32 o aelodau fe fyddai angen disgyblaeth haearnaidd am dymor cyfan ac fe fyddai unrhyw hap neu ddamwain yn gallu dryllio'r mwyafrif. Ydy Rhodri'n fodlon dibynnu ar fys pleidleisio Brian Gibbons am ei fwyafrif ac a fydd Mike German yn gallu darbwyllo'i blaid i lywodraethu ar ol y methiant etholiadol. Mae'n bosib bod her i'w arweinyddiaeth ar y ffordd.
Dyw'r grwp llafur ddim am gwrdd tan ddydd Mawrth. Mae grwp Plaid Cymru yn cwrdd brynhawn yma. dwy'n meddwl bod hynny'n ddiddorol.
SylwadauAnfon sylw
Da oedd y blogio byw.
O'n i'n y pyb tan 2 felly dim mynadd ymuno yn yr hwyl ar ol mynd adra.
Y newyddion mwyaf arwyddocaol am wn i yw llwyddiant Mohammad Asghar o Blaid Cymru. Pob lwc iddo ddweda i.
Mae'n drueni bod John Marek heb gadw ei le ac na lwyddodd Ron Davies i ddod nôl, achos digon di-nod yw llawer o'r aelodau unwaith eto.
Pwy fydd y Dirprwy Lywydd nawr felly? Rwy'n credu y gallai David Melding fod yn dda yn y swydd, ond gan fod cymaint yn y fantol, pa blaid fydd yn fodlon colli aelod o'u rhengoedd i wneud y gwaith yma?
Unrhyw newydd o'r de-orllewin ?
Hmmm.. ond fydd mynd i'r gwely efo Plaid Cymru yn creu problem adeg yr etholiad gyffredinol nesaf ??
Ni fyddai yr SNP yn eisiau mynd i glymblaid efo'r Toriau yn ar Alban, am ei bod yn 'Conservative & Unionist' party. Rwy'n gallu gweld problem i Ming os byddai yn propio lan yr SNP er mwyn i nhw gael 'referendum' ar annibyniaeth - ni fyddai'r MPs yn gadael iddo anghofio ni yn San Steffan adeg yr elecsiwn.
A fyddai Gordon Brown yn barod am y 'stick' fyddai yn cael am helpu Plaid Cymru gyda'i dymuned i gael mwy [os nad llwyr] annibyniaeth i Gymru ?
Cawn weld Dydd Mawrth...
Mei...collaist ti ddim byd yn y pyb jyst ni yn llenwi fel ffyliaid am oriau lawer!
Dim eto, Dewi.
Bedd, A dweud y gwir dwy wir ddim yn gweld Llafur Llundain yn ymyrryd yn yr hyn sy'n digwydd nesaf. Dwy'n meddwl bod y cof am Alun Michael o hyd yn graith.
Unrhyw newydd o'r Orllewin De Cymru?