´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barn y bobol

Vaughan Roderick | 16:43, Dydd Sul, 24 Mehefin 2007

Mae'r sbeis sy gen i yn rhengoedd Plaid Cymru yn awgrymu mai clymblaid a Llafur yw'r syniad sy'n cael ei werthi i aelodau'r Blaid wrth i Ieuan Wyn Jones annerch cyfarfodydd o gwmpas Cymru.

Os felly, mae'n bosib bod Ieuan ar fin bacio'r ceffyl anghywir yng ngolwg y cyhoedd. Yn ôl arolwg gan ICM i ´óÏó´«Ã½ Cymru mae'r gefnogaeth i glymblaid o'r fath wedi gostwng yn sylweddol ers etholiadau'r cynulliad.

Yn yr arolwg cyffelyb adeg yr etholiad roedd 35% yn cefnogi llywodraeth coch-gwyrdd. Mae'r nifer yna nawr wedi gostwng i 28%. Yn ystod yr un cyfnod mae’r gefnogaeth i'r enfys wedi cynyddu o 32% i 41%. Mae'r nifer sy'n cefnogi clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi aros mwy neu lai yn yr unfan gyda 21% o blaid y posibilrwydd hwnnw.

Er mai'r enfys yw'r syniad mwyaf poblogaidd erbyn hyn mae'n wir, wrth gwrs, bod y mwyafrif o hyd yn cefnogi clymbleidiau sy'n cynnwys Llafur yn hytrach na chlymblaid sy'n cau'r blaid fwyaf allan. O 48% i 33% mae'r rhai a holwyd yn ffafrio Rhodri Morgan dros Ieuan Wyn Jones fel Prif Weinidog.

Serch hynny fe allai'r ffaith bod pobol wedi cynhesu at yr enfys yn yr wythnosau ers yr etholiad pery i rai ail-feddwl ynghylch pa benderfyniad sydd orau i Blaid Cymru.

Holwyd 1,001 o bobol gan ICM rhwng 19/6/06 a 22/6/06.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 06:53 ar 25 Mehefin 2007, ysgrifennodd Teilo:

    "Er mai'r enfys yw'r syniad mwyaf poblogaidd erbyn hyn mae'n wir, wrth gwrs, bod y mwyafrif o hyd yn cefnogi clymbleidiau sy'n cynnwys Llafur yn hytrach na chlymblaid sy'n cau'r blaid fwyaf allan."

    Dyw'r frawddeg hon ddim yn ystyrlon.

  • 2. Am 09:26 ar 25 Mehefin 2007, ysgrifennodd Guto Bebb:

    Ydi, mae'r frawddeg yn synhwyrol. Y pwynt syml yw fod mwy yn cefnogi gweld Llafur mewn rhyw fath o glymblaid na'r nifer sy'n cefnogi'r Enfys.

    Canlyniadau difyr.

  • 3. Am 09:54 ar 25 Mehefin 2007, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Mae 69% yn fodlon derbyn clymblaid sy'n cynnwys Plaid Cymru i gymharu â 49% sydd am weld Llafur yn rhan o'r llywodraeth.

    Serch hynny, y son yn y papurau yw na fydd aelodau Plaid yn cael trafod na phleidleisio ar opsiwn yr Enfys yn y Cyngor Cenedlaethol. Camgymeriad hanesyddol o bosib?

  • 4. Am 11:57 ar 25 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dyfrig Thomas:

    Vaughan - Newydd bod yn gwrando ar Manylu a dy gyfweliad â Alun Michael. Efallai fy mod ychydig yn ragfarnllyd er yn gobeithio ddim ond fe ges i sylwadau Alun braidd yn gyfoglyd - onid oedd yn barod i gyfadde fod unrhyw wendid yng nghymeriad TB.

    Os wnes i ddeall yn iawn ar ddechrau'r sgwrs yr oedd yn canmol TB am ei ddadansoddiad a'i allu i symud pethau ymlaen. I fi roedd yn ymddangos fod rhaglen S4C hwyr neithiwr yn dweud rhywbeth hollol wahanol. Fod gydag e weledigaeth ond heb ddim diddordeb yn y manylion na'r gallu i sicrhau fod ei brojectau yn cael eu symud ymlaen

  • 5. Am 12:54 ar 25 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Yn sicr, mae'r pôl fel pe bai'n gwrthddweud ei hun! Beth bynnag am hynny, bûm yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ym Mhlas Menai nos Wener, a chawsom drafodaeth fuddiol. Yn wir, roedd y drafodaeth yn gwbl ddemocrataidd a chawsom i gyd gyfle i leisio ein barn ar ôl clywed ychydig o sôn am y trafodaethau rhwng y Blaid a'r Blaid Lafur, ynghyd â hanes yr opsiwn arall. Roedd yn gyfarfod reit ddiddorol, y cyntaf o saith sydd i'w cynnal ar hyd a lled Cymru, felly does dim i'w wneud bellach ond aros tan 7 Gorffennaf, pryd y daw'r canlyniad yn hysbys. Yn bersonol, rwy'n dal o blaid y glymblaid â Llafur - wedi'r cwbl, mae'r hen elfen wrth-Gymreig a arferai fodoli yn y De naill ai wedi marw neu wedi camu oddi ar y brif lwyfan.

  • 6. Am 12:58 ar 25 Mehefin 2007, ysgrifennodd vaughan:


    Dyfrig, mae `na sawl farn am TB ac yn sicr dyw Alun ddim yn ddi-duedd!
    Y pwynt oedd e'n ceisio gwneud dw i'n meddwl oedd bod polisiau TB yn enwedig ynghylch cyfraith a threfn yn deillio o egwyddor ac o ddadansoddi'r broblem h.y nad slogan yn unig oedd "tough on crime...". Ydy Manylu wedi myn mas , gyda llaw? Roeddwn i'n meddwl mai heno oedd hi mlaen.

  • 7. Am 16:09 ar 25 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Ro'n i wastad yn meddwl bo ni yn y Blaid wedi bod yn annheg tuag at Alun Michael....a pham taw'r Blaid wnaeth ei dynnu i lawr dwi ddim yn gwybod - gwneud gwaith Llafur iddynt ac yn colli traen o'n cefnogaeth yn yr etholiad nesaf...campwaith gwleidyddol - Alun wedi dysgu'r iaith a danfon ei blant i ysgol Gymraeg - Rhodri y gwrthyneb.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.